Eseciel 44
44
1Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac yr oedd yn gaead. 2Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef: oherwydd Arglwydd Dduw Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y bydd yn gaead. 3I’r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr Arglwydd: ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr un yr â efe allan.
4Ac efe a’m dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ: a mi a edrychais, ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd: a mi a syrthiais ar fy wyneb. 5A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Gosod dy galon, fab dyn, a gwêl â’th lygaid, clyw hefyd â’th glustiau, yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt, am holl ddeddfau tŷ yr Arglwydd, ac am ei holl gyfreithiau; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o’r cysegr. 6A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef tŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tŷ Israel, o’ch holl ffieidd-dra; 7Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i’w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a’r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd-dra chwi. 8Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr.
9Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni ddaw i’m cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o’r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel. 10A’r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd. 11Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i’r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o’u blaen hwy i’w gwasanaethu hwynt. 12Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu hanwiredd. 13Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o’m pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a’u ffieidd-dra a wnaethant. 14Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.
15Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt-hwy a nesânt ataf fi i’m gwasanaethu, ac a safant o’m blaen i offrymu i mi y braster a’r gwaed, medd yr Arglwydd Iôr: 16Hwy a ânt i mewn i’m cysegr, a hwy a nesânt at fy mwrdd i’m gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.
17A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fewn. 18Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant â dim a baro chwys. 19A phan elont i’r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i’r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â’u gwisgoedd. 20Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau. 21Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i’r cyntedd nesaf i mewn. 22Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant. 23A dysgant i’m pobl ragor rhwng y sanctaidd a’r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân. 24Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a’m deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau. 25Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi. 26Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod. 27A’r dydd yr elo i’r cysegr, o fewn y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech-aberth, medd yr Arglwydd Dduw. 28A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy. 29Y bwyd-offrwm, a’r pech-aberth, a’r aberth dros gamwedd, a fwytânt hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy. 30A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o’ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i’r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ. 31Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun, neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail.
Dewis Presennol:
Eseciel 44: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.