Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 45

45
1A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i’r Arglwydd offrwm cysegredig o’r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch. 2O hyn y bydd i’r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongl oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch. 3Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a’r lle sancteiddiolaf. 4Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i’r cysegr. 5A’r pum mil ar hugain o hyd, a’r dengmil o led, fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.
6Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenogaeth i’r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig: i holl dŷ Israel y bydd hyn.
7A rhan fydd i’r tywysog o’r tu yma ac o’r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua’r gorllewin, ac o du y dwyrain tua’r dwyrain: a’r hyd fydd ar gyfer pob un o’r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain. 8Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a’r rhan arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.
9Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd Dduw. 10Bydded gennych gloriannau uniawn, ac effa uniawn, a bath uniawn. 11Bydded yr effa a’r bath un fesur; gan gynnwys o’r bath ddegfed ran homer, a’r effa ddegfed ran homer: wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt. 12Y sicl fydd ugain gera: ugain sicl, a phum sicl ar hugain, a phymtheg sicl, fydd mane i chwi. 13Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd. 14Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o’r corus; yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer. 15Un milyn hefyd o’r praidd a offrymwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd-offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd, i wneuthur cymod drostynt, medd yr Arglwydd Dduw. 16Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i’r tywysog yn Israel. 17Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd-offrwm, a diod-offrwm ar yr uchel wyliau, a’r newyddloerau, a’r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech-aberth, a bwyd-offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel. 18Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith-gwbl, ac y puri y cysegr. 19Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech-aberth, ac a’i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn. 20Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o’r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ. 21Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch. 22A’r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech-aberth. 23A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i’r Arglwydd, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith-gwbl, bob dydd o’r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech-aberth bob dydd. 24Bwyd-offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda’r effa. 25Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech-aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd-offrwm, ac fel yr olew.

Dewis Presennol:

Eseciel 45: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda