Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 43

43
1Ac efe a’m dug i’r porth, sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain. 2Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef. 3Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas: a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb. 4A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain. 5Felly yr ysbryd a’m cododd, ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ. 6Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.
7Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt-hwy, na’u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd. 8Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a’u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd-dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid. 9Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.
10Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad. 11Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a’i osodiad, a’i fynediadau allan, a’i ddyfodiadau i mewn, a’i holl ddull, a’i holl ddeddfau, a’i holl ddull, a’i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a’i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt. 12Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.
13A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a’r lled yn gufydd, a’i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor. 14Ac o’r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o’r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led. 15Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o’r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn. 16A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys. 17A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch: a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain.
18Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni. 19Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd Dduw, i’m gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech-aberth. 20A chymer o’i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi. 21Cymeri hefyd fustach y pech-aberth, ac efe a’i llysg ef yn y lle nodedig i’r tŷ, o’r tu allan i’r cysegr. 22Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith-gwbl yn bech-aberth; a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â’r bustach. 23Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaith-gwbl, a hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd. 24Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymi hwynt; a’r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a’u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 25Saith niwrnod y darperi fwch yn bech-aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o’r praidd, o rai perffaith-gwbl. 26Saith niwrnod y cysegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac yr ymgysegrant. 27A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i’r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a’ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd Dduw.

Dewis Presennol:

Eseciel 43: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda