Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 103

103
SALM CIII
FY ENAID, BENDITHIA IEHOFA.
‘Salm Dafydd’.
1O fy enaid, bendithia Iehofa;
A’r cwbl sydd ynof Ei enw santaidd.
2O fy enaid, bendithia Iehofa,
Nac anghofia yr un o’i gymwynasau.
3Y mae’n maddau dy holl feiau;
Yn iachau dy holl glefydau.
4Y mae’n gwaredu dy fywyd o’r Pydew,
Yn dy goroni â chariad a thosturi.
5Y mae’n diwallu dy ddymuniadau da,
Ac fel i’r eryr daw ieuenctid o’r newydd i tithau.
6Iehofa sy’n gweithredu cyfiawnder
A barn i bawb a orthrymir.
7Dangosodd Ei gynlluniau i Foses,
A’i weithredoedd i’r Israeliaid.
8Llawn tosturi a llawn gras yw Iehofa,
Araf i ddigio, a mawr ei gariad.
9Nid yw’n ymryson yn wastad,
Nid yw bob amser yn dal llid.
10Ni ddeliodd â ni yn ôl ein pechodau,
Na thalu i ni yn ôl ein beiau.
11Canys fel yr uchder mawr rhwng nef a daear
Ydyw maint ei gariad at Ei ddilynwyr.
12Megis pellter rhwng dwyrain a gorllewin
Ydyw’r pellter a osododd Ef rhwng ein pechodau a ninnau.
13Fel tosturi tad at blant
Yw tosturi Iehofa at Ei ddilynwyr.
14Gŵyr Ef sut y’n lluniwyd,
Cofia mai llwch ydym.
15Ond am ddyn, — fel glaswellt yw ei ddyddiau;
Fel blodeuyn y maes y blodeua.
16Dim ond awel o wynt arno, ac ni bydd,
A’i le ni wêl ef mwy.
17Ond cariad Iehofa sy’n dragwyddol,
A’i gyfiawnder i blant plant,
18I’r neb a geidw Ei gyfamod,
A chofio gwneuthur Ei orchymynion.
19Sefydlodd Iehofa Ei orsedd yn y nefoedd,
A’i frenhiniaeth sy’n llywodraethu ar bopeth.
20Bendithiwch Iehofa, Ei angylion,
Y cedyrn nerthol sy’n cyflawni Ei orchymyn.
21Bendithiwch Iehofa, Ei holl luoedd,
Ei weision ffyddlon sy’n gwneuthur Ei ewyllys.
22Bendithiwch Iehofa Ei holl weithredoedd.
Ymhob cwr o’i lywodraeth.
O fy enaid, bendithia Iehofa.
salm ciii
Mewn cyfnod diweddar y canwyd y Salm brydferth hon. Nid oes dim yn tarfu ar heddwch dyddiau’r awdur, a chaiff lonydd i feddwl am ddaioni di-baid Iehofa. Gŵyr yr awdur am ysgrythurau eraill, a gwna ddefnydd ohonynt.
Y mae’n anodd credu bod 19-22 yn perthyn i’r Salm wreiddiol, a diau eu hychwanegu yma gan ryw olygydd er mwyn gwneuthur y Salm yn fwy addas i’w defnyddio yn addoliad y Deml.
Nodiadau
1—5. Y mae ‘enaid’ a ‘cwbl sydd ynof’ yn golygu yr holl bersonoliaeth, ac efallai bod Deut. 6:5 yn ei feddwl “â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth”. Y mae’r berfau yn adn. 3-5 yn golygu egnïon sy’n nodweddu Iehofa wrth ddelio â’i bobl, y mae’n maddau ac yn dal i faddau.
Yn 4 saif y Pydew am Sheol, a’r ystyr yw fod Sheol yn hawlio ei fywyd, a Duw yn dirymu ei hawl.
Yn 5 y mae cyfeiriad at chwedl yr eryr yn adnewyddu ei ieuenctid mewn hen ddyddiau, neu, yn ôl rhai, cyfeiriad ato yn bwrw ei blu a’i tyfu eilwaith sydd yma, ond pa fardd a ddefnyddiai gyffelybiaeth mor gyffredin?
6—10. Gweithredoedd cyfiawn neu weithredoedd gwaredigol a olygir wrth ‘gyfiawnder’ yn 6, a ‘barn’ bron yn gyfystyr â hynny. Hir amynedd ac hir ymaros Duw a fynegir yn 9; tosturio a charu ydyw gwaith priod Duw, peth anfynych yn Ei hanes ydyw ymryson a digio, — nid yw’n delio â ni yn ôl ein haeddiant.
11—14. Bendith fawr maddeuant a folir yma. Dodi pellter rhwng pechod a dyn ydyw un ffordd yr Hebrëwr o fynegi maddeuant. Gŵyr Duw am ein “ffrâm”, — dyna ystyr y gair Hebraeg, a dyma’r gair a ddefnyddir yn Gen. 2:7. Gwêl hefyd Gen. 3:19.
15—18. Cysylltir y ddeubeth ynghyd, sef breuder dyn a thragwyddoldeb Duw. Fel y deifir blodyn gan wynt eirias y De mewn munud awr, cyn freued â hynny ydyw einioes dyn. Gwell yw gadael allan frawddeg olaf 17, — ychwanegiad clogyrnaidd ar ymyl y ddalen ydoedd i ddechrau, a’i gynnwys wedyn yn y testun.
19—22. Yn y darn hwn a ychwanegwyd at y Salm wreiddiol, llywodraeth gyffredinol Iehofa ydyw’r pwnc, ac y mae’r mawl a roddir iddo mor gyffredinol â’i lywodraeth, — rhoddir mawl iddo yn y nef, a than y nef.
Pynciau i’w Trafod:
1. Wrth drafod y Salm hon dywed Emrys ap Iwan: —
“Y mae pobl orau Duw i gyd yn llawen; am eu bod yn llawen y maent mor weithgar. Ac fel y mae eu hysbryd llawen yn eu cymell i weithgarwch felly y mae eu gweithgarwch yn eu cadw yn llawen. Wrth ymgolli yng ngwaith yr Arglwydd, y maent yn anghofio eu helbulon a’u gofidiau eu hunain.” Trafodwch hyn yng ngoleuni dysgeidiaeth y Salm.
2. “Y mae’r Creawdwr yn fwy o wrbonheddig na’i greaduriaid”. Ystyriwch hyn yn ngoleuni 1 — 5.
3. Crefydd hindda sy’n y Salm hon. A glywir y dinc yma gan grefyddwyr ar adeg o ddrycin a gorthrwm?
4. A ydyw profiad y Salmydd hwn o ddaioni Duw gennych chwi? Onid ydyw, pam?

Dewis Presennol:

Salmau 103: SLV

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda