Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 102

102
SALM CII
‘Gweddi gŵr cystuddiol pan oedd yn llesg Ac yn tywallt ei gŵyn o flaen Iehofa’.
I. GWEDDI’R TRUAN.
1O Iehofa, clyw fy ngweddi;
A deued fy llef am gymorth atat.
2Na chudd Dy wyneb rhagof
Yn fy nydd cyfyng.
Gostwng Dy glust ataf:
A phan alwyf arnat, ateb yn fuan.
3Diflanna fy nyddiau fel mwg,
A llosgir fy esgyrn fel tanwydd.
4Deifiwyd fy nghalon fel glaswellt a gwywodd;
Anghofiaf fwyta fy mwyd.
5Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,
O achos fy nhuchan uchel.
6Tebyg wyf i belican yr anialwch, —
I ddylluan y lleoedd diffaith.
7Methu â chysgu yr wyf, a griddfanaf
Fel aderyn bach unig ar ben to.
8Gwaradwydd fy ngelynion sydd arnaf beunydd,
“Melltith ar ei ben” ydyw iaith fy ngwatwarwyr.
9Bwytâf ludw yn lle bara,
Ag wylofain y cymysgais fy niod.
10O achos Dy lid a’th ddigofaint,
Canys codaist fi i fyny a’m taflu i lawr drachefn.
11Ymestyn fy nyddiau fel cysgod,
A minnau fel glaswellt sy’n gwywo.
23Gwanhaodd fy nerth ar daith bywyd,
Byrhaodd fy nyddiau.
24Ac wrthyt Ti sydd a’th flynyddoedd yn oes oesoedd
Dywedaf, “Na thor fi i lawr yng nghanol fy nyddiau”.
II. GOBAITH AM ADFER SION.
12O Iehofa sy’n eistedd yn oes oesoedd ar Dy orsedd,
Pery Dy goffadwriaeth drwy bob cenhedlaeth.
13Ti a gyfodi a thrugarhau wrth Sion;
Y mae’n amser trugarhau wrthi, — daeth yr awr fawr.
14Annwyl gan Dy weision yw ei meini hi,
A charant ei llwch.
16Pan adeilado Iehofa Sion,
Ac ymddangos mewn gogoniant,
17Pan dry at weddi’r gwael
Heb ei dirmygu hi,
15Yna’r cenhedloedd a barcha enw Iehofa,
A holl frenhinoedd y ddaear Dy ogoniant.
18Rhowch hyn ar gof a chadw er mwyn y genhedlaeth a ddêl,
Fel y molianner Iehofa gan y bobl a fydd,
19Pan edrych Ef o’i uchder santaidd,
A syllu o’r nefoedd ar y ddaear,
20I wrando ochenaid y carcharor,
A rhyddhau’r neb sydd dan farn angau;
22Pan gasgler y bobl a’r teyrnasoedd
Ynghyd i addoli Iehofa,
21I fynegi Iehofa yn Sion,
A’i foliant yn Ieriwsalem.
III. Y DUW DIGYFNEWID.
25Tydi ers talm a seiliaist y ddaear,
A gwaith Dy ddwylo yw’r nefoedd.
26Diflannant hwy, ond Tydi a saif.
Hwynt-hwy oll a dreulia fel dilledyn.
Newidi hwynt fel gwisg, a newidir hwynt.
27Ond yr un wyt Ti a diderfyn Dy flynyddoedd.
28Plant Dy weision a erys,
A’u had a sicrheir o’th flaen.
salm cii
Y mae yma ddwy Salm a darn. Diystyr ydyw llawer o deitlau’r Salmau, ond y mae’n digwydd fod y teitl hwn yn disgrifio i’r dim gynnwys y Salm gyntaf. Y mae gwahaniaeth dybryd rhwng yr ail Salm a’r gyntaf. Dengys hon gydnabyddiaeth helaeth â darnau eraill o’r Ysgrythur ac yn arbennig â Salmau eraill (gwêl 69 a 79), a dengys hyn ei bod hi yn llawer diweddarach ei chyfnod na hwynt. Yna ceir darn a aeth ar ddisberod, a chollwyd gweddill y Salm y crwydrodd y darn hwn ohoni. Wrth geisio clytio y rhain yn un darn digwyddodd amryfusedd, a cheisiwn ddodi’r adnodau yn y drefn briodol.
Nodiadau
1, 2. Gwêl fel y mae’r awdur yn dibynnu ar Salmau eraill, 18:6; 27:9; 31:2; 39:12; 56:9 a 59:16.
3—5. Cyfeiriad at wres ei dwymyn, a chan ei ofid curiodd fel nad oedd dim ond croen ac esgyrn yn aros heb gnawd rhyngddynt.
6—8. Adar yr unigeddau a enwir yma, ac unig ydyw yntau oherwydd y gelynion o’i gwmpas a llid Duw. Ac yntau ar ddihun oherwydd ei ofid clywai’r adar bach ar y toeau yn cwynfan am eu cymar.
9—11, 23, 24. Yma yn unig yn y Salm y mae 23 a 24 yn esmwyth. Arwydd gofid ydyw lludw ar y pen, ac yn lle bod perlysiau yn melysu ei ddiod, disgyn ei ddagrau i’r gwpan i’w chwerwi.
‘Ymestyn fy nyddiau fel cysgod’ — fel y bo cysgod yn ymestyn tyn y dydd i’w derfyn, a therfyn ei einioes yntau sy’n agosáu.
12—22. Yn 13 y mae’n gyfyng ar Ieriwsalem, a chyfeiriad sydd yma at ei hadfyd hi yn union o flaen buddugoliaethau’r Macabeaid. Sail ei obaith am adferiad Sion ydyw “Iehofa sy’n eistedd yn oes oesoedd ar Ei orsedd”.
Y mae’r awdur yn hyderus fod Duw ar fin gwneuthur pethau mawr i Sion, ac anogir dodi ar gof a chadw y pethau y mae ar fedr eu gwneuthur. A phan gwpleir hwy daw holl frenhinoedd y cenhedloedd a’u pobloedd i Ieriwsalem i’w gydnabod.
26—28. Darn o Salm a Iehofa’r digyfnewid yn bwnc iddi.
Y mae y nefoedd hyd yn oed i ddarfod, ond erys Duw, ac oherwydd hynny sicrheir ffyniant y neb sy’n ffyddlon iddo.
Pynciau i’w Trafod:
1. Pa un ai profiad unigolyn ynteu profiad y genedl a fynegir yn y Salm gyntaf?
2. Paham y rhoes yr Iddew gymaint o bwys ar hir-ddyddiau (adn. 24)?
3. Ystyriwch y defnydd a wneir o 25-28 yn Hebreaid 1:10-12. A ellir cymhwyso’r geiriau hyn at Grist?

Dewis Presennol:

Salmau 102: SLV

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda