1
Salmau 103:2
Detholiad o’r Salmau 1936 (Lewis Valentine)
O fy enaid, bendithia Iehofa, Nac anghofia yr un o’i gymwynasau.
Cymharu
Archwiliwch Salmau 103:2
2
Salmau 103:3-5
Y mae’n maddau dy holl feiau; Yn iachau dy holl glefydau. Y mae’n gwaredu dy fywyd o’r Pydew, Yn dy goroni â chariad a thosturi. Y mae’n diwallu dy ddymuniadau da, Ac fel i’r eryr daw ieuenctid o’r newydd i tithau.
Archwiliwch Salmau 103:3-5
3
Salmau 103:1
O fy enaid, bendithia Iehofa; A’r cwbl sydd ynof Ei enw santaidd.
Archwiliwch Salmau 103:1
4
Salmau 103:13
Fel tosturi tad at blant Yw tosturi Iehofa at Ei ddilynwyr.
Archwiliwch Salmau 103:13
5
Salmau 103:12
Megis pellter rhwng dwyrain a gorllewin Ydyw’r pellter a osododd Ef rhwng ein pechodau a ninnau.
Archwiliwch Salmau 103:12
6
Salmau 103:8
Llawn tosturi a llawn gras yw Iehofa, Araf i ddigio, a mawr ei gariad.
Archwiliwch Salmau 103:8
7
Salmau 103:10-11
Ni ddeliodd â ni yn ôl ein pechodau, Na thalu i ni yn ôl ein beiau. Canys fel yr uchder mawr rhwng nef a daear Ydyw maint ei gariad at Ei ddilynwyr.
Archwiliwch Salmau 103:10-11
8
Salmau 103:19
Sefydlodd Iehofa Ei orsedd yn y nefoedd, A’i frenhiniaeth sy’n llywodraethu ar bopeth.
Archwiliwch Salmau 103:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos