S. Marc 3
3
1Ac aeth i mewn drachefn i’r sunagog: ac yr oedd yno ddyn a chanddo ei law wedi gwywo. 2A gwyliasant Ef ai ar y Sabbath yr iachaai ef, fel y cyhuddent Ef. 3A dywedodd Efe wrth y dyn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. 4A dywedodd wrthynt, Ai cyfreithlawn yw ar y Sabbath wneuthur da, neu ynte wneuthur drwg? cadw einioes neu ladd? 5A hwy a dawsant. Ac wedi edrych o amgylch arnynt gyda digter, gan ei boeni am galedrwydd eu calon, dywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law; ac estynodd efe hi allan, ac adferwyd ei law ef. 6Ac wedi myned allan o’r Pharisheaid, yn uniawn ynghyda’r Herodianiaid cynghor a gymmerasant yn Ei erbyn Ef, pa fodd y difethent Ef.
7A’r Iesu ynghyda’i ddisgyblion a giliodd at y môr; a thyrfa fawr o Galilea a’i canlynodd Ef: 8ac o Iwdea, ac o Ierwshalem, ac o Idwmea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac o amgylch Tyrus a Tsidon, tyrfa fawr, gan glywed cymmaint o bethau yr oedd Efe yn eu gwneuthur, a ddaeth Atto: 9a dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion am fod i gwch bach barhau yn agos oblegid y dyrfa, fel na wasgent Ef; 10canys llawer a iachasai Efe, fel y syrthiai Arno, er mwyn cyffwrdd ag Ef, gynnifer ag oedd a phlaau arnynt. 11A’r ysprydion aflan, pan Ef a welent, a syrthient i lawr ger Ei fron ac a waeddent, 12gan ddywedyd, Tydi wyt Fab Duw: a llawer y dwrdiodd Efe hwynt na wnaent Ef yn amlwg.
13Ac esgynodd i’r mynydd; a galwodd Atto y rhai a ewyllysiodd Efe; 14a daethant Atto: ac appwyntiodd ddeuddeg i fod gydag Ef, ac fel y danfonai hwynt i bregethu, 15ac i fod a chanddynt awdurdod i fwrw allan y cythreuliaid; 16a rhoddes ar Shimon yr enw Petr; ac Iago mab Zebedëus, 17ac Ioan brawd Iago, rhoddes hefyd arnynt hwy yr enw Boanerges, 18yr hyn yw Meibion y Daran; ac Andreas, a Philip, a Bartholemëus, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alphëus, 19a Thaddëus, a Shimon y Cananead, ac Iwdas Ishcariot, yr hwn hefyd a’i traddododd Ef.
20A daethant i dŷ; a thrachefn y daeth y dyrfa ynghyd fel na allent hwy hyd yn oed fwytta bara. 21Ac wedi clywed o’i berthynasau, aethant allan i’w ddal Ef, canys dywedasant, Allan o’i bwyll y mae. 22A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i wared o Ierwshalem, a ddywedasant, Beelzebub sydd Ganddo, a thrwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid. 23Ac wedi eu galw hwynt Atto, mewn damhegion y dywedodd wrthynt, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24Ac os teyrnas yn ei herbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r deyrnas honno. 25Ac, os tŷ yn ei erbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r tŷ hwnw. 26Ac os Satan a gododd yn ei erbyn ei hun ac ymrannu o hono, ni all sefyll, ond diwedd sydd iddo. 27Eithr ni fedr neb, wedi myned i mewn i dŷ’r cadarn, yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ei dŷ ef a yspeilia efe. 28Yn wir y dywedaf wrthych, Pob peth a faddeuir i feibion dynion, y pechodau ac y cableddau cynnifer ag a gablont; 29ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, 30eithr dyledwr yw i bechod tragywyddol; canys dywedasant, “Yspryd aflan sydd Ganddo.”
31A daeth Ei fam ac Ei frodyr, a chan sefyll tu allan, danfonasant Atto, gan Ei alw. 32Ac eisteddai tyrfa o’i amgylch Ef, a dywedasant Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr Di tu allan a’th geisiant Di. 33A chan atteb iddynt, 34dywedodd, Pwy yw Fy mam I ac Fy mrodyr? Ac wedi edrych o amgylch ar y rhai oedd yn eistedd o’i gwmpas Ef, 35dywedodd, Wele Fy mam I a’m brodyr; canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnw, brawd i Mi, a chwaer, a mam yw.
Dewis Presennol:
S. Marc 3: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.