Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Marc 4

4
1A thrachefn y dechreuodd ddysgu yn ymyl y môr; ac ymgasglodd Atto dyrfa ddirfawr, fel y bu Iddo, wedi myned i’r cwch, eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa, yn ymyl y môr, ar y tir yr oeddynt. 2A dysgodd iddynt, mewn damhegion, lawer o bethau; a dywedodd wrthynt yn Ei ddysgad, Gwrandewch. 3Wele, allan yr aeth yr hauwr i hau. 4A bu wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd; a daeth yr ehediaid, a bwyttasant ef. 5Ac arall a syrthiodd ar y creigle, lle ni chafodd ddaear lawer, ac yn uniawn yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear; 6a phan gododd yr haul, llosgwyd ef; a chan nad oedd ganddo wreiddyn, gwywodd. 7Ac arall a syrthiodd ymhlith y drain; a daeth y drain i fynu, a thagasant ef, a ffrwyth ni roddes efe. 8Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a rhoddasant ffrwyth, gan dyfu i fynu a chynnyrchu; a dygasant, yn ddeg ar hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant. 9A dywedodd Efe, Yr hwn sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.
10A phan yr oedd Efe ar Ei ben Ei hun, gofynodd y rhai o’i amgylch ynghyda’r deuddeg Iddo am y damhegion; 11a dywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch teyrnas Dduw wedi ei roddi; ond iddynt hwy, y rhai tu allan, 12mewn damhegion y mae’r cwbl, fel yn gweled y gwelont ac na chanfyddont; ac yn clywed y clywont ac na ddeallont; rhag ysgatfydd iddynt ddychwelyd ac y maddeuer iddynt. 13A dywedodd wrthynt, Oni wyddoch y ddammeg hon? A pha fodd y bydd yr holl ddamhegion yn hysbys i chwi? 14Yr hauwr, y Gair y mae efe yn ei hau; a’r rhai hyn yw’r rhai ar ymyl y ffordd lle’r hauir y Gair, 15a phan glywont, yn uniawn dyfod y mae Satan, ac yn dwyn ymaith y Gair a hauwyd ynddynt. 16A’r rhai hyn ydynt, yr un ffunud, y rhai a hauwyd ar y creigleoedd, y rhai pan glywont y Gair, yn uniawn gyda llawenydd y derbyniant ef, 17ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr am amser y maent: wedi hyny, pan gyfodo blinder neu erlid o achos y Gair, yn uniawn y tramgwyddir hwy. 18Ac eraill sydd, y rhai a hauwyd ymhlith y drain; 19y rhai hyn yw y rhai a glywant y Gair, a phryder y byd a thwyll golud, ac y chwantau am y pethau eraill, gan ddyfod i mewn, a dagant y Gair; ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned. 20A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ar y tir da; y rhai a glywant y Gair ac a’i derbyniant, ac a ddygant ffrwyth, yn ddeg ar hugain, yn dri ugain, ac yn gant.
21A dywedodd wrthynt, A fydd y llusern yn dyfod fel tan y llestr y’i doder, neu dan y gwely? Onid fel ar safle’r llusern y’i doder? 22Canys nid oes dim cuddiedig, oddieithr fel yr amlyger ef, na dim wedi ei wneuthur yn ddirgel, ond fel y deuai i’r amlwg. 23Os yw neb a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed. 24A dywedodd wrthynt, Edrychwch pa beth a glywch. A pha fesur y mesurwch, y mesurir i chwi; 25a rhoddir yn ychwaneg i chwi; canys yr hwn sydd a chanddo, rhoddir iddo; a’r hwn sydd heb ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
26A dywedodd, Fel hyn y mae teyrnas Dduw, fel pe bai dyn yn bwrw’r had ar y ddaear; 27a chysgu, a chodi nos a dydd, ac yr had a egina ac a dyfa, y modd na wyr efe; 28canys o honi ei hun y mae’r ddaear yn dwyn ffrwyth, yn gyntaf yr eginyn, ar ol hyny y dywysen, 29ar ol hyny y llawn ŷd yn y dywysen: a phan ganiattao y ffrwyth, yn uniawn y denfyn efe y cryman, o herwydd dyfod o’r cynhauaf.
30A dywedodd, Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw? Ac ym mha ddammeg ygosodwn hi? 31Cyffelybwn hi i ronyn o had mwstard, yr hwn pan hauer yn y ddaear, y lleiaf o’r holl hadau ar y ddaear yw; 32ac wedi’r hauer, myned i fynu y mae, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mawrion, fel tan ei gysgod y gall ehediaid y nefoedd lettya.
33Ac â chyfryw ddamhegion lawer y llefarodd iddynt y Gair, 34fel yr oeddynt yn medru Ei glywed, ac heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ond o’r neilldu i’w ddisgyblion yr esponiodd bob peth.
35A dywedodd wrthynt y dydd hwnw, a’r hwyr wedi dyfod, Awn trosodd i’r tu draw. 36Ac wedi gollwng ymaith y dyrfa, cymmerasant Ef yn ebrwydd i’r cwch. Ac yr oedd cychod eraill gydag Ef. 37A digwyddodd tymhestl fawr o wynt, a’r tonnau a gurent i’r cwch, fel mai llenwi yn awr yr oedd y cwch: 38ac Efe oedd yn y pen ol i’r cwch, yn cysgu ar y gobennydd. A deffroisant Ef, a dywedasant Wrtho, Athraw, onid gwaeth Genyt ein bod ar ddarfod am danom? 39Ac wedi codi o Hono, dwrdiodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, Gostega; distawa. A pheidiodd y gwynt; a bu tawelwch mawr. 40A dywedodd Efe wrthynt, Paham mai ofnog ydych? Onid oes genych etto ffydd? 41Ac ofnasant ag ofn mawr, a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan fod hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?

Dewis Presennol:

S. Marc 4: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda