Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Marc 2

2
1Ac wedi myned trachefn i Caphernahwm wedi rhai dyddiau, clybuwyd Ei fod mewn tŷ; 2a chydymgasglodd llawer, fel na chynnwysai bellach hyd yn oed hyd at y drws mo honynt; a llefarodd Efe y Gair wrthynt. 3A daethant, gan ddwyn Atto ddyn claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar: 4a chan na allent nesau Atto o achos y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle’r oedd Efe; ac wedi torri trwodd, gollyngasant i wared y gorwedd-beth ar yr hwn yr oedd y claf o’r parlys yn gorwedd. 5A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd dy bechodau di. 6Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yno, yn eistedd ac yn ymresymmu yn eu calonau, Paham y mae hwn yn llefaru fel hyn? 7Cablu y mae. Pwy all faddeu pechodau oddieithr Un, sef Duw? 8Ac yn uniawn, gan weled o’r Iesu yn Ei yspryd mai felly yr ymresymment ynddynt eu hunain, dywedodd wrthynt, Paham y mae’r ymresymmiadau hyn genych yn eich calonau? 9Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, “Maddeuwyd dy bechodau,” neu ddywedyd, “Cyfod, a chymmer i fynu dy orweddfa, a rhodia?” 10Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn, ar y ddaear i faddeu pechodau, (dywedodd wrth y claf o’r parlys) Wrthyt ti y dywedaf, 11Cyfod, cymmer i fynu dy orweddfa, a dos i’th dŷ. 12A chyfododd efe; ac yn uniawn wedi cymmeryd i fynu ei orweddfa, yr aeth allan yngwydd pawb, fel y synnodd pawb, ac y gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, nis gwelsom erioed fel hyn.
13Ac aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth Atto, a dysgodd Efe hwynt. 14Ac wrth fyned heibio gwelodd Lefi fab Alphëus, yn ei eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; ac wedi codi o hono, canlynodd Ef. 15A bu lled-orwedd o Hono wrth y ford yn ei dŷ ef, a llawer o dreth-gymmerwyr a phechaduriaid a led-orweddent ynghyda’r Iesu a’i ddisgyblion, canys yr oedd llawer o honynt, a chanlynent Ef. 16Ac ysgrifenyddion y Pharisheaid, yn gweled Ei fod yn bwytta ynghyda’r pechaduriaid a threth-gymmerwyr, a ddywedasant wrth Ei ddisgyblion, Ynghyda threth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwytty ac yr yf Efe. 17Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; eithr i’r rhai drwg eu hwyl. Ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid.
18A byddai disgyblion Ioan, ac y Pharisheaid, yn ymprydio: a daethant a dywedasant Wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan, a disgyblion y Pharisheaid yn ymprydio, ond Dy ddisgyblion Di nid ymprydiant? 19A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas, tra ynghyda hwynt y mae’r priodas-fab, ymprydio? Cymmaint amser ag y mae ganddynt y priodas-fab ynghyda hwynt, 20ni allant ymprydio: ond daw’r dyddiau pan ddygir y priodas-fab ymaith oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnw. 21Nid oes neb yn gwnio darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen: onite, cymmer y cyflawniad oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hen, a rhwyg gwaeth a wneir. 22Ac nid oes neb yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen; onite, tyr y gwin y costrelau, ac am y gwin y derfydd, ac am y costrelau: eithr gwin newydd i gostrelau crai.
23A bu Ei fod ar y Sabbath yn myned trwy’r maesydd yd, a dechreuodd Ei ddisgyblion ymdaith gan dynu’r tywys; 24a’r Pharisheaid a ddywedasant Wrtho, Wele, Paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn? 25A dywedodd Efe wrthynt, Oni fu i chwi erioed ddarllen pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai gydag ef? 26Y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bara’r gosod ger bron a fwyttaodd efe, y rhai nid yw gyfreithlawn eu bwytta oddieithr i’r offeiriaid, ac y rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef. 27A dywedodd wrthynt, Y Sabbath, o achos dyn y’i gwnaethpwyd, ac nid dyn o achos y Sabbath, 28fel mai Arglwydd yw Mab y Dyn hyd yn oed ar y Sabbath.

Dewis Presennol:

S. Marc 2: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda