S. Ioan 14
14
1Na chynhyrfer eich calon chwi. Credu yr ydych yn Nuw; ac Ynof Finnau hefyd credwch. 2Yn nhy Fy Nhad trigfannau lawer sydd; a phe amgen, dywedaswn i chwi, canys myned yr wyf i barottoi lle i chwi. 3Ac os af a pharottoi i chwi le, trachefn y deuaf a chymmeraf chwi Attaf Fy hun, fel lle yr wyf Fi, y bo i chwithau hefyd fod. 4Ac i ba le yr wyf Fi yn cilio, gwyddoch y ffordd. 5Dywedyd Wrtho a wnaeth Thomas, Arglwydd, nis gwyddom i ba le yr wyt yn cilio. 6Pa fodd y gwyddom y ffordd? Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Myfi wyf y ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd; nid oes neb yn dyfod at y Tad, oddieithr trwof Fi. 7Ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech. 8O hyn allan yr adwaenoch Ef, a gwelsoch Ef. Dywedyd Wrtho a wnaeth Philip, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. 9Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Ai cyhyd o amser yr wyf gyda chwi, ac nid adnabuost Fi, Philip? Yr hwn a’m gwelodd I a welodd y Tad. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, “Dangos i ni y Tad?” 10Oni chredi Fy mod I yn y Tad, a’r Tad Ynof Finnau? Yr ymadroddion y rhai yr wyf Fi yn eu llefaru wrthych, nid o Honof Fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y Tad y sy’n aros Ynof Fi sy’n gwneuthur Ei weithredoedd. 11Credwch Fi Fy mod I yn y Tad, ac y Tad Ynof Finnau: ac onite, o achos y gweithredoedd eu hunain credwch Fi. 12Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn sy’n credu Ynof, y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur, hwnw hefyd a’u gwna, ac rhai mwy na’r rhai hyn a wna efe, gan mai at y Tad yr wyf Fi yn myned. 13A pha beth bynnag a ofynoch yn Fy enw, hyny a wnaf, fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14Os gofynwch i Mi ryw beth yn Fy enw, hyny a wnaf. 15Os caru Fi yr ydych, Fy ngorchymynion a gedwch, 16ac Myfi a ofynaf i’r Tad, a Diddanydd arall a rydd Efe i chwi, 17fel y bo gyda chwi yn dragywydd, sef Yspryd y gwirionedd, yr Hwn ni all y byd Ei dderbyn am na wel Ef, ac nad adwaen efe Ef. Chwi a’i hadwaenoch Ef, gan mai gyda chwi y mae yn aros, ac ynoch y bydd. 18Nis gadawaf chwi yn amddifaid: deuaf attoch. 19Etto ennyd bach, a’r byd nid yw mwyach yn Fy ngweled, ond chwi a’m gwelwch. Oherwydd Fy mod I yn fyw, chwithau hefyd fyddwch fyw. 20Yn y dydd hwnw y gwybyddwch chwi Fy mod I yn y Tad, a chwithau Ynof Fi, ac Myfi ynoch chwi. 21Yr hwn sydd a’m gorchymynion ganddo, ac yn eu cadw, hwnw yw’r hwn sydd yn Fy ngharu; a’r hwn a’m câr, a gerir gan Fy Nhad; ac Myfi a’i caraf ef, ac egluraf Fy hun iddo. 22Dywedyd Wrtho a wnaeth Iwdas (nid yr Ishcariot), Arglwydd, pa beth yw’r achos mai i nyni yr wyt ar fedr egluro Dy hun, ac nid i’r byd? 23Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Os neb a’m câr, Fy ngair a geidw efe; ac Fy Nhad a’i câr ef; ac atto y deuwn, a thrigfa gydag ef a wnawn. 24Yr hwn nad yw yn Fy ngharu, Fy ngeiriau ni cheidw; ac y gair a glywch nid yw Fy eiddo I, eithr eiddo y Tad yr Hwn a’m danfonodd.
25Y pethau hyn a leferais wrthych, tra gyda chwi yr wyf yn aros; 26ond y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr Hwn a ddenfyn y Tad yn Fy enw, Efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg i’ch cof yr holl bethau a ddywedais wrthych. 27Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi; Fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae’r byd yn rhoddi, yr wyf Fi yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer eich calon, ac nad ofned. 28Clywsoch, canys Myfi a ddywedais wrthych, “Ciliaf, a deuaf attoch.” Pe carech Fi, llawenychech oherwydd myned o Honof at y Tad; canys y Tad, mwy na Myfi yw. 29Ac yr awr hon y dywedais wrthych cyn na ddigwydd, fel pan ddigwyddo, y credoch. 30Nid llawer peth mwyach a lefaraf gyda chwi, canys dyfod y mae llywodraethwr y byd, ac Ynof Fi nid oes iddo ddim: 31eithr fel y gwypo’r byd Fy mod yn caru y Tad, ac fel y gorchymynodd y Tad i Mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.
Dewis Presennol:
S. Ioan 14: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.