Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Ioan 15

15
1Myfi yw’r winwydden wir; ac Fy Nhad, y llafurwr yw. 2Pob cangen Ynof nad yw yn dwyn ffrwyth, cymmer Efe hi ymaith; a phob un y sy’n dwyn ffrwyth, ei glanhau y mae Efe, fel y dygo fwy o ffrwyth. 3Yn awr chwychwi ydych lân o achos y gair a leferais wrthych. 4Arhoswch Ynof, ac Myfi ynoch chwi. Fel nad yw’r gangen yn abl i ddwyn ffrwyth o honi ei hun os nad erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau os nad Ynof yr arhoswch. 5Myfi yw’r winwydden, chwychwi yw’r canghennau. Yr hwn sy’n aros Ynof, ac Myfi ynddo yntau, efe sy’n dwyn ffrwyth lawer; canys yn wahan Oddiwrthyf ni ellwch wneuthur dim. 6Onid erys un Ynof, bwrir ef allan, fel y gangen, a gwywa: a chasglant hwynt, ac i’r tân y’u bwriant, a llosgir hwynt. 7Os arhoswch Ynof, ac Fy ngeiriau a arhosant ynoch, pa beth bynnag a ewyllysiwch, gofynwch ef, a bydd i chwi. 8Yn hyn y gogoneddir Fy Nhad, pan ffrwyth lawer a ddygoch; a byddwch Fy nisgyblion I. 9Fel y carodd y Tad Fi, Minnau hefyd a’ch cerais chwi. Arhoswch yn Fy nghariad I. 10Os Fy ngorchymynion a gedwch, arhoswch yn Fy nghariad; fel y cedwais I orchymynion Fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn Ei gariad Ef. 11Y pethau hyn a leferais wrthych, fel y bo Fy llawenydd ynoch, ac i’ch llawenydd ei gyflawni. 12Hwn yw Fy ngorchymyn, Ar garu o honoch eich gilydd fel y cerais chwi. 13Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef fod i ddyn ddodi i lawr ei einioes dros ei gyfeillion. 14Chwychwi yw Fy nghyfeillion, os gwnewch y pethau yr wyf Fi yn eu gorchymyn i chwi. 15Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, canys y gwas ni wŷr pa beth y mae ei arglwydd ef yn ei wneuthur; ond chwi a elwais yn gyfeillion, canys pob peth o’r a glywais gan Fy Nhad, a hyspysais i chwi. 16Nid chwi a’m dewisasoch I, eithr Myfi a ddewisais chwi, ac a’ch gosodais fel yr eloch chwi, a ffrwyth a ddygoch, ac y bo i’ch ffrwyth aros; fel pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad, y rhoddo Efe i chwi. 17Hyn a orchymynaf i chwi, Garu o honoch eich gilydd. 18Os y byd a’ch casa chwi, gwyddoch y bu’m I o’ch blaen chwi yn gas ganddo. 19Os o’r byd y byddech, y byd a garai ei eiddo; ond gan nad o’r byd yr ydych, eithr Myfi a’ch dewisais allan o’r byd, o achos hyn eich casau y mae y byd. 20Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais I wrthych, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os Myfi a erlidiasant, chwychwi hefyd a erlidiant: os Fy ngair I a gadwasant, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. 21Ond y pethau hyn oll a wnant i chwi o achos Fy enw, gan nad adnabuant yr Hwn a’m danfonodd. 22Pe na ddelswn a llefaru wrthynt, pechod ni fuasai arnynt; ond yr awrhon nid oes esgus ganddynt am eu pechod. 23Yr hwn a’m casao I, Fy Nhad hefyd a gasa efe. 24Pe na wnelswn yn eu plith weithredoedd na fu i neb arall eu gwneud, pechod ni fuasai arnynt; ond yn awr, gwelsant a chasasant Fyfi ac Fy Nhad. 25Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith, “Casasant fi yn ddïachos.” 26Ond pan ddel y Diddanydd, yr Hwn a ddanfonaf Fi i chwi oddiwrth y Tad, Yspryd y gwirionedd, yr Hwn o’r Tad y deilliaw, Efe a dystiolaetha am Danaf; 27a chwychwi a dystiolaethwch, canys o’r dechreuad yr ydych gyda Mi.

Dewis Presennol:

S. Ioan 15: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda