Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Ioan 13

13
1A chyn gwyl y Pasg, gan wybod o’r Iesu y daethai Ei awr i fyned trosodd o’r byd hwn at y Tad, wedi caru yr Eiddo y rhai oedd yn y byd, hyd y diwedd y carodd hwynt. 2A swpper wedi dyfod (diafol eisoes wedi ei fwrw i’w galon i Iwdas mab Shimon, Ishcariot, Ei draddodi Ef), 3gan wybod o’r Iesu fod pob peth wedi ei roddi Iddo, i’w ddwylaw, gan y Tad, ac mai o Dduw y daethai allan, 4ac at Dduw Ei fod yn myned, cyfododd oddiar y swpper, a rhoddodd ymaith Ei gochl-wisg, ac wedi cymmeryd tywel, ymwregysodd. 5Wedi hyny, tywalltodd ddwfr i’r cawg, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, ac eu sychu â’r tywel â’r hwn yr ymwregysasai. 6Daeth, gan hyny, at Shimon Petr. Dywedodd efe Wrtho, Arglwydd, ai Ti sy’n golchi fy nhraed i? 7Attebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, Yr hyn yr wyf Fi yn Ei wneuthur, tydi ni wyddost yr awr hon; ond cenfyddi ef ar ol hyn. 8Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Ni olchi er dim, fy nhraed i, byth. Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda Mi. 9Dywedyd Wrtho a wnaeth Shimon Petr, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylaw hefyd ac fy mhen. 10Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, I’r hwn a olchwyd, nid oes rhaid ond golchi ei draed, eithr y mae efe yn lân oll. 11A chwychwi, glân ydych, eithr nid pawb o honoch; canys gwyddai pwy a’i traddodai Ef; o achos hyn y dywedodd, Nid pawb o honoch sydd lân.
12Am hyny pan olchasai eu traed, a chymmeryd ei ddillad, a lled-orwedd trachefn, dywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi? 13Chwi a’m galwch “Yr Athraw,” ac “Yr Arglwydd;” a da y dywedwch, canys felly yr wyf. 14Os Myfi, gan hyny, a olchais eich traed chwi, “Yr Arglwydd,” ac “Yr Athraw,” chwi hefyd a ddylech olchi traed eich gilydd, 15canys esampl a roddais i chwi er mwyn fel y bu i Mi wneuthur i chwi, y bo i chwithau hefyd wneud. 16Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Nid yw gwas yn fwy na’i arglwydd, na chenhadwr yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. 17Os y pethau hyn a wyddoch, gwyn eich byd os gwnewch hwynt. 18Nid am bawb o honoch yr wyf yn dywedyd: Myfi a wn pwy a etholais; eithr fel y bo i’r Ysgrythyr ei chyflawni,
“Yr hwn sy’n bwytta fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.”
19Ac yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn na ddigwydd, fel y credoch pan ddigwyddo, mai Myfi yw Efe. 20Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, yr hwn sy’n derbyn pwy bynnag a ddanfonwyf, Myfi a dderbyn efe; a’r hwn sy’n derbyn Myfi, sy’n derbyn yr Hwn a’m danfonodd.
21A phan y pethau hyn a ddywedasai Efe, yr Iesu a gynhyrfwyd yn Ei yspryd, a thystiolaethodd, a dywedodd, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda. 22Edrych at eu gilydd a wnaeth y disgyblion mewn dyryswch am bwy y dywedai. 23A lled-orwedd yr oedd un o’i ddisgyblion ym mynwes yr Iesu, yr hwn oedd hoff gan yr Iesu: 24ar hwnw, gan hyny, yr amneidiodd Shimon Petr, a dywedodd wrtho, Dywaid i ni pwy yw yr hwn am yr hwn y dywaid Efe. 25Efe yn gorwedd felly ar ddwyfron yr Iesu a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 26Atteb, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Hwnw yw efe i’r hwn y bydd i Mi, wedi trochi o Honof y tammaid, ei roddi iddo. Wedi trochi’r tammaid, gan hyny, cymmerodd a rhoddodd ef i Iwdas, mab Shimon Ishcariot. 27Ac ar ol y tammaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Dywedyd wrtho gan hyny a wnaeth yr Iesu, Yr hyn yr wyt yn ei wneud, gwna ar frys. 28A hyn nid oedd neb o’r rhai yn eu lled-orwedd yn gwybod i ba beth y dywedasai Efe wrtho; 29canys rhai a dybient gan fod y cwd gan Iwdas, mai dywedyd wrtho yr oedd yr Iesu, Pryn y pethau y mae rhaid i ni wrthynt i’r wyl, neu I’r tlodion y rhoddai ryw beth. 30Wedi derbyn y tammaid, gan hyny, efe a aeth allan yn uniawn. Ac yr oedd hi yn nos.
31Gan hyny, pan aethai efe allan, dywedodd yr Iesu, Yn awr gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw a ogoneddwyd Ynddo: 32a Duw a’i gogonedda Ef Ynddo Ei hun, ac yn uniawn y gogonedda Ef. 33O blant bychain, ychydig etto gyda chwi yr wyf. Ceisiwch Fi; ac fel y dywedais wrth yr Iwddewon, Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod, wrthych chwi hefyd yr wyf yn dywedyd yr awr hon. 34Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu o honoch eich gilydd; fel y cerais chwi, ar i chwithau hefyd garu eich gilydd. 35Wrth hyn y gwybydd pawb mai i Myfi yr ydych yn ddisgyblion, os bydd cariad genych i’ch gilydd.
36Dywedyd Wrtho a wnaeth Shimon Petr, Arglwydd, i ba le yr wyt yn cilio? Attebodd yr Iesu, Lle yr wyf yn cilio iddo, ni elli yr awr hon Fy nghanlyn; ond canlyni ar ol hyn. 37Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Arglwydd, paham na allaf Dy ganlyn Di yr awrhon? Fy einioes, trosot Ti, a ddodaf i lawr. 38Attebodd yr Iesu, Dy einioes, trosof Fi, a ddodi i lawr! Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Ni fydd i geiliog ganu nes y gwedi Fi dair gwaith.

Dewis Presennol:

S. Ioan 13: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda