S. Ioan 12
12
1Yr Iesu, gan hyny, chwe diwrnod o flaen y Pasg, a ddaeth i Bethania, lle’r oedd Lazarus, yr hwn a godasai yr Iesu o feirw. 2Gwnaethant, gan hyny, Iddo swpper yno, a Martha a wasanaethai, ond Lazarus oedd un o’r rhai yn lled-orwedd ynghydag Ef. 3Mair, gan hyny, wedi cymmeryd pwys o ennaint nard gwlyb tra-chostus, a enneiniodd draed yr Iesu, ac â gwallt ei phen y sychodd Ei draed; a’r tŷ a lanwyd ag arogl yr ennaint. 4A dywedodd Iwdas Ishcariot, un o’i ddisgyblion Ef, yr hwn oedd ar fedr Ei draddodi Ef, 5Paham na chafodd yr ennaint hwn ei werthu er tri chan denar, a’i roddi i dlodion? 6A dywedodd hyn, nid am mai am y tlodion y maliai, eithr am mai lleidr ydoedd; ac, a’r cwd ganddo, y pethau a fwrid i mewn a gludai. 7Dywedyd, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Gad iddi; bu fel erbyn dydd Fy nghladdedigaeth y cadwai ef; 8canys y tlodion sydd bob amser genych ynghyda chwi; ond Myfi, nid bob amser yr wyf genych.
9Gwybu, gan hyny, dyrfa fawr o’r Iwddewon, mai yno yr oedd Efe; a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, eithr fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gododd Efe o feirw. 10Ac ymgynghorodd yr archoffeiriaid fel y lladdent Lazarus hefyd, 11canys o’i achos ef y ciliodd llawer o’r Iwddewon, ac y credasant yn yr Iesu.
12Trannoeth tyrfa fawr, yr hon a ddaethai i’r wyl, wedi clywed mai dyfod y mae’r Iesu i Ierwshalem, 13a gymmerasant gangau y palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag Ef, a bloeddient,
Hoshanna bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd a Brenhin Israel.
14A’r Iesu, wedi cael asynyn, a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig,
15“Nac ofna, ferch Tsion; wele, dy Frenhin sy’n dyfod, yn eistedd ar lwdn asyn.”
16Y pethau hyn ni wybu Ei ddisgyblion ar y cyntaf; eithr pan ogoneddasid yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am Dano, ac mai y pethau hyn a wnaethant Iddo. 17Tystiolaethu, gan hyny, yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gydag Ef pan alwodd Efe Lazarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw; 18o achos hyn y cyfarfu y dyrfa hefyd ag Ef, am glywed o honynt Iddo wneuthur yr arwydd hwn. 19Y Pharisheaid, gan hyny, a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Gwelwch nad ydych yn tyccio ddim. Wele, y byd a aeth ymaith ar Ei ol Ef.
20Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethant i fynu fel yr addolent ar yr wyl. 21Y rhai hyn, gan hyny, a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethtsaida, a gofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ewyllysiem weled yr Iesu. 22Daeth Philip a dywedodd wrth Andreas. Daeth Andreas a Philip, a dywedasant wrth yr Iesu. 23A’r Iesu a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y Dyn. 24Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Oni bydd i’r gronyn gwenith, ar ol syrthio i’r ddaear, farw, efe a erys yn unig; ond os bydd marw, llawer o ffrwyth a ddwg efe. 25Yr hwn sy’n caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sy’n casau ei einioes yn y byd hwn, i fywyd tragywyddol y’i ceidw. 26Os Myfi a wasanaetha neb, ar Fy ol I deued; a lle yr wyf Fi, yno y bydd Fy ngweinidog hefyd. Os bydd neb yn Fy ngwasanaethu I, ei anrhydeddu ef a wna’r Tad. 27Yn awr Fy enaid a gynhyrfwyd: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared Fi allan o’r awr hon. Eithr oherwydd hyn y daethum i’r awr hon. 28O Dad, gogonedda Dy enw Di. Daeth, gan hyny, lef o’r nef, Gogoneddais, ac etto y’i gogoneddaf. 29Y dyrfa, gan hyny, yr hon oedd yn sefyll ac a glywodd a ddywedodd mai taran fu; eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd Wrtho. 30Attebodd yr Iesu a dywedodd, Nid o’m hachos I y mae’r llef hon wedi dyfod, eithr o’ch achos chwi. 31Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr llywodraethwr y byd hwn a fwriwyd allan; 32ac Myfi, os dyrchefir Fi oddiar y ddaear, pawb a dynnaf Attaf Fy hun. 33A hyn a ddywedodd Efe gan arwyddo o ba fath angau yr oedd ar fedr marw. 34Atteb, gan hyny, Iddo a wnaeth y dyrfa, Nyni a glywsom o’r Gyfraith fod Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt Ti yn dywedyd, Rhaid dyrchafu Mab y Dyn? 35Pwy yw’r Mab y Dyn hwn? Dywedyd, gan hyny, iddynt a wnaeth yr Iesu, Etto ychydig ennyd y mae’r goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra y mae’r goleuni genych, rhag i dywyllwch eich goddiweddyd: a’r hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned. 36Tra y mae’r goleuni genych, credwch yn y goleuni, fel y byddoch feibion y goleuni.
Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac wedi myned ymaith ymguddiodd rhagddynt. 37Ac Efe wedi gwneuthur cymmaint o arwyddion yn eu gwydd, ni chredasant Ynddo; 38fel y byddai i ymadrodd Eshaiah y prophwyd ei gyflawni, yr hwn a ddywedodd efe,
“Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd?
A braich Iehofah, i bwy y dadguddiwyd hi?”
39Ac o achos hyn ni allent gredu oblegid dywedyd o Eshaiah drachefn,
40“Dallodd eu llygaid hwynt, a chaledodd eu calon hwynt,
Rhag gweled o honynt â’u llygaid, a deall â’u calon,
Ac ymchwelyd o honynt, ac eu hiachau Genyf.”
41Y pethau hyn a ddywedodd Eshaiah, am weled o hono Ei ogoniant; a llefarodd am Dano Ef. 42Er hyny i gyd, hyd yn oed o’r pennaethiaid llawer a gredasant Ynddo; ond oblegid y Pharisheaid ni chyffesasant, rhag eu rhoi allan o’r sunagog, 43canys carent ogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.
44A’r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sy’n credu Ynof, nid credu Ynof Fi y mae, eithr yn yr Hwn a’m danfonodd: 45a’r hwn sydd yn Fy ngweled, gweled yr Hwn a’m danfonodd y mae. 46Myfi, yn oleuni y daethum i’r byd hwn, fel pob un y sy’n credu Ynof, yn y tywyllwch nad arhoso. 47Ac os neb a glywo Fy ngeiriau I, ac na’u cadwo, Myfi ni farnaf ef, canys ni ddaethum fel y barnwn y byd, eithr fel yr achubwn y byd. 48Yr hwn sydd yn Fy nirmygu, ac heb dderbyn Fy ymadroddion, sydd ag iddo yr hwn a’i barn: y gair yr hwn a leferais, efe a’i barn ef yn y dydd diweddaf. 49Canys Myfi, nid o Honof Fy hun y lleferais, ond y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a roddes i Mi orchymyn pa beth a ddywedwn a pha beth a lefarwn: 50ac Ei orchymyn, gwn mai bywyd tragywyddol yw; y pethau, gan hyny, yr wyf Fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad Wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
Dewis Presennol:
S. Ioan 12: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.