S. Ioan 11
11
1Ac yr oedd rhyw un yn glaf, Lazarus o Bethania, o bentref Mair, a Martha, ei chwaer hi. 2A Mair oedd yr hon a enneiniodd yr Arglwydd ag ennaint ac a sychodd Ei draed â’i gwallt, brawd yr hon, Lazarus, oedd glaf. 3Gan hyny y danfonodd y chwiorydd Atto, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, yr hwn yr wyt yn ei garu, claf yw. 4Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd, Y clefyd hwn nid yw i farwolaeth, eithr er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo. 5A hoff oedd gan yr Iesu Martha a’i chwaer a Lazarus. 6Gan hyny, pan glybu ei fod yn glaf, yna yn wir yr arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. 7Yna, wedi hyny, y dywedodd wrth y disgyblion, Awn i Iwdea drachefn. 8Dywedyd Wrtho a wnaeth y disgyblion, Rabbi, yn awr ceisio Dy labyddio yr oedd yr Iwddewon, ac a âi drachefn yno? 9Attebodd yr Iesu, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? Os rhodia neb y dydd, ni thripia, gan mai goleuni’r byd hwn a wel efe. 10Ond os rhodia neb y nos, tripio y mae, gan nad yw y goleuni ynddo. 11Hyn a lefarodd Efe, ac wedi hyny y dywedodd wrthynt, Lazarus, ein cyfaill, a aeth i huno; eithr myned yr wyf fel y dihunwyf ef. 12Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth y disgyblion, Arglwydd, os huno y mae, iacheir ef. 13Ond dywedasai’r Iesu am ei farwolaeth; a hwy a dybiasant mai am hun cwsg y dywedasai. 14Yna, gan hyny, dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu yn eglur, Lazarus a fu farw: 15a llawen wyf o’ch plegid chwi, fel y credoch, nad oeddwn yno: eithr awn atto. 16Gan hyny y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag Ef.
17Gan hyny, wedi dyfod o Hono, yr Iesu a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. 18Ac yr oedd Bethania yn agos i Ierwshalem, ynghylch pymtheg ystad oddiwrthi. 19A llawer o’r Iwddewon a ddaethent at Martha a Mair fel y cysurent hwynt am eu brawd. 20Martha, gan hyny, pan glybu fod yr Iesu yn dyfod, a gyfarfu ag Ef; ond Mair, yn y tŷ yr arhosodd. 21Gan hyny y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit yma, ni fuasai farw fy mrawd. 22Ac yn awr, gwn pa beth bynnag a ofynech gan Dduw, y dyry Duw i Ti. 23Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Adgyfodir dy frawd. 24Dywedyd Wrtho a wnaeth Martha, Gwn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf. 25Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Myfi yw’r adgyfodiad ac y bywyd. Yr hwn sy’n credu Ynof, er marw o hono, a fydd byw: 26a phob un y sy’n fyw ac yn credu Ynof, ni fydd marw yn dragywydd. Ai credu hyn yr wyt? 27Dywedodd Wrtho, Ydwyf, Arglwydd; myfi a gredais mai Tydi yw y Crist, Mab Duw, yr Hwn sydd yn dyfod i’r byd. 28Ac wedi dywedyd hyn yr aeth hi ymaith, a galwodd Mair ei chwaer, yn ddirgel, gan ddywedyd, Yr Athraw a ddaeth ac a’th eilw. 29A hithau, pan glybu hyn, a gododd ar frys ac a aeth Atto. 30Ac ni ddaethai’r Iesu etto i’r pentref, ond yr oedd etto yn y fan lle y cyfarfu Martha ag Ef. 31Gan hyny, yr Iwddewon, y rhai oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, gan weled Mair mai ar frys y codasai ac yr aethai allan, a’i canlynasant hi, gan dybied ei bod yn myned at y bedd fel y gwylai yno. 32Mair, gan hyny, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, pan y’i gwelodd, a syrthiodd wrth Ei draed, gan ddywedyd, Pe buasit yma, ni fuasai farw fy mrawd. 33Yr Iesu, gan hyny, pan welodd hi yn gwylo, a’r Iwddewon y rhai a ddaethent gyda hi, yn gwylo, a riddfanodd yn yr yspryd ac yr ymgynhyrfodd; 34a dywedodd, Pa le y dodasoch ef? Dywedasant Wrtho, Arglwydd, tyred a gwel. 35Gwylodd yr Iesu. Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, Wele, fel y carai ef. 36Ond rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai Hwn, 37yr Hwn a agorodd lygaid y dall, beri na fuasai chwaith i hwn farw? 38Yr Iesu, gan hyny, gan riddfan trachefn Ynddo Ei hun, a ddaeth at y bedd; a gogof oedd, a maen oedd yn gorwedd wrtho. 39Dywedodd yr Iesu, dygwch ymaith y maen. Dywedyd Wrtho a wnaeth chwaer yr hwn a fu farw, sef Martha, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi, canys yn ei bedwerydd dydd y mae. 40Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Oni ddywedais wrthyt, Os credi, gweli ogoniant Duw. 41Gan hyny, dygasant ymaith y maen; a’r Iesu a gododd Ei lygaid i fynu, ac a ddywedodd, Y Tad, diolchaf i Ti am wrando o Honot Arnaf. 42Ac Myfi a wyddwn Dy fod bob amser yn gwrando Arnaf Fi, eithr o achos y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai Tydi a’m danfonaist I. 43Ac wedi dywedyd hyn, â llais uchel y llefodd, Lazarus, yma allan: 44ac allan y daeth yr hwn a fuasai farw, yn rhwym ei draed a’i ddwylaw â llieiniau-claddu, a’i wyneb â napcyn a amrwymwyd. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
45Gan hyny, llawer o’r Iwddewon, y rhai a ddaethent at Mair ac a welsant yr hyn a wnaeth Efe, 46a gredasant Ynddo; ond rhai o honynt a aethant ymaith at y Pharisheaid, ac a ddywedasant wrthynt y pethau a wnaeth yr Iesu.
47Gan hyny y casglodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid Gynghor ynghyd, a dywedasant, Pa beth yr ydym yn ei wneuthur, canys y dyn Hwn, llawer o arwyddion y mae Efe yn eu gwneud? 48Os gadawn Iddo fel hyn, pawb a gredant Ynddo; a daw y Rhufeiniaid, a dygant ymaith ein lle ni ac ein cenedl hefyd. 49A rhyw un o honynt, Caiaphas, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, 50a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ni wyddoch ddim, ac nid ystyriwch mai buddiol yw i ni fod i un dyn farw dros y bobl, ac nad am yr holl genedl y darffo. 51A hyn, nid o hono ei hun y’i dywedodd; eithr ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, prophwydodd fod yr Iesu ar fedr marw dros y genedl; 52ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai hefyd ynghyd yn un blant Duw, y rhai a wasgarasid. 53Gan hyny, o’r dydd hwnw allan, yr ymgynghorasant fel y lladdent Ef.
54Yr Iesu, gan hyny, ni rodiodd mwy yn amlwg ymhlith yr Iwddewon, eithr aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas Ephraim, fel y’i gelwir, ac yno yr arhosodd ynghyda’r disgyblion.
55Ac agos oedd Pasg yr Iwddewon, ac aeth llawer i fynu i Ierwshalem, o’r wlad, cyn y Pasg fel y glanhaent eu hunain. 56Gan hyny, ceisiasant yr Iesu, a dywedasant wrth eu gilydd, pan yn sefyll yn y deml, Pa beth a dybygwch chwi? 57Ai na ddaw Efe ddim i’r wyl? A rhoddasai yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid orchymynion, os byddai neb yn gwybod pa le y mae, ar fynegi o hono fel y dalient Ef.
Dewis Presennol:
S. Ioan 11: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.