Ac wedi dywedyd hyn, â llais uchel y llefodd, Lazarus, yma allan: ac allan y daeth yr hwn a fuasai farw, yn rhwym ei draed a’i ddwylaw â llieiniau-claddu, a’i wyneb â napcyn a amrwymwyd. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.