Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 14

14
Cynllunio i ladd yr Iesu
1Yr oedd hi’n Ŵyl y Pasg a’r Bara Croyw ymhen deuddydd, a cheisiodd y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith ffordd i gael gafael ar yr Iesu trwy gyfrwystra, a’i ladd, 2ond “nid ar yr ŵyl, chwaith,” medden nhw, “rhag i’r bobl fynd yn ferw gwyllt.”
Chwalu’r botel alabastr
3A’r Iesu’n eistedd i fwyta yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus ym Methania, dyma wraig yn dod i mewn gan ddwyn potel alabastr o beraroglau nard pur a chostus — ac wedi torri’r botel fe arllwysodd y nard ar ben yr Iesu. 4Roedd rhai o’r cwmni yn anfodlon iawn.
“I beth roedd eisiau gwastraffu’r nard?” medden nhw. 5“Gellid ei werthu am dros dri chan swllt a rhannu’r elw rhwng y tlodion,” a dyma nhw’n ceryddu’r wraig yn llym. 6Ond dywedodd yr Iesu, “Gedwch lonydd iddi. Pam rydych yn ei phoeni? Fe wnaeth hi weithred brydferth i mi. 7Mae’r tlodion gyda chi o hyd, a gellwch eu helpu nhw pryd y mynnoch, ond fyddaf fi ddim gyda chi o hyd. 8Fe wnaeth hon yr hyn a allodd, ac fe eneiniodd fy nghorff ymlaen llaw erbyn y claddu. 9Credwch chi fi, pa le bynnag y cyhoeddir y Newyddion Da drwy’r byd i gyd, fe fydd sôn hefyd am yr hyn a wnaeth hi er cof amdani.”
10Fe aeth Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, at y prif offeiriaid i fradychu’r Iesu iddyn nhw. 11Roedden nhwythau’n llawenhau wrth ei glywed ac fe addawson roi arian iddo. Dechreuodd yntau chwilio am gyfle i gyflawni ei frad.
Yr oruwch ystafell
12Ar ddydd cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, pan aberthid oen y Pasg, gofynnodd ei ddisgyblion i’r Iesu, “Ymhle rwyt ti am i ni drefnu i ti fwyta’r Pasg?”
13Anfonodd yntau ddau o’i ddisgyblion gan ddweud wrthyn nhw, “Ewch i’r dref, ac fe gwrddwch â dyn yn cario ystên o ddŵr. Dilynwch ef 14a pha le bynnag yr â i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ hwnnw, ‘Y mae’r Athro’n gofyn, pa le y mae’r ystafell y caf fwyta’r Pasg ynddi gyda’m disgyblion?’ 15Ac fe ddengys ichi ystafell fawr wedi ei threfnu’n barod. Yno paratowch i ni.”
16Aeth y disgyblion ymaith a chyrraedd y ddinas a chael popeth fel roedd wedi dweud wrthyn nhw. A dyma baratoi y Pasg.
Y swper olaf
17Gyda’r hwyr daeth yr Iesu yno gyda’r deuddeg. 18A phan oedden nhw yn eistedd ac yn bwyta fe ddywedodd wrthyn nhw, “Gwrandewch, y mae un ohonoch sy’n bwyta gyda mi yn mynd i’m bradychu.”
19Parodd hyn ofid mawr iddyn nhw, a dyma bob un yn ei dro yn gofyn iddo, “Nid myfi yw?”
20Atebodd yntau, “Y mae’n un o’r deuddeg, un sy’n gwlychu ei fysedd yn yr un ddysgl â mi. 21Fe â Mab y Dyn i ffwrdd fel sy wedi’i ragfynegi amdano yn yr Ysgrythurau, ond gwae’r dyn hwnnw sy’n mynd i’w fradychu! Byddai’n well i’r dyn hwnnw fod heb ei eni erioed.”
22A nhwythau’n bwyta, fe gymerodd yr Iesu fara, ac wedi gofyn bendith, fe’i torrodd a’i roi iddyn nhw, gan ddweud, “Cymerwch, fy nghorff i yw hwn.”
23Yna fe gymerodd gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddodd iddyn nhw, ac yfodd pawb ohono. 24Meddai wrthyn nhw, “Fy ngwaed i o’r cyfamod yw hwn, a gollir dros lawer.
25“Credwch chi fi, yfaf fi ddim eto o ffrwyth y winwydden hyd y dydd pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.”
26Wedi canu emyn, fe aethon nhw allan i fynydd yr Olewydd.
Ar fynydd yr Olewydd
27Yna dywedodd yr Iesu wrthyn nhw, “Bydd pob un ohonoch chi yn colli ei ffydd, oherwydd mae’r ysgrythur yn dweud, ‘Fe drawaf y bugail, ac fe wasgerir y defaid,’ 28ond wedi i mi gyfodi fe af o’ch blaen i Galilea.”
29Ond fe ddywedodd Pedr wrtho, “Gall pob un golli ei ffydd; wnaf fi ddim.”
30Atebodd yr Iesu ef, “Cred di fi, fe fyddi di heddiw, y noson hon, cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, wedi gwrthod fy arddel deirgwaith.”
31Ond para i daeru a wnâi Pedr, “Petai’n rhaid imi farw gyda thi, wnaf fi byth mo’th wadu di.”
Fe ddywedodd pob un ohonyn nhw yr un peth.
Yng ngardd Gethsemane
32A phan ddaethon nhw i le o’r enw Gethsemane dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.”
33Cymerodd Pedr ac Iago ac Ioan gydag ef. Roedd yn ofnus iawn a thrallodus ei feddwl, 34a dywedodd wrthyn nhw, “Y mae fy nghalon ar dorri gan dristwch. Arhoswch chi yn y fan hon a gwyliwch.”
35Aeth yntau ychydig ymlaen, a chan ei ollwng ei hun i’r llawr, gweddïodd am i’r awr fynd heibio iddo, os oedd hynny’n bosibl. 36A dywedodd, “Abba Dad, mae popeth yn bosibl i ti. Cymer ymaith y cwpan hwn oddi wrthyf; er hynny, gad iddi fod fel rwyt ti’n dymuno, nid fel rydw i’n dymuno.”
37Ac fe ddaeth a’u cael yn cysgu, a gofynnodd i Bedr, “Wyt ti’n cysgu, Simon? Fedraist ti ddim gwylio am awr? 38Gwyliwch a gweddïwch fel nad ewch chi ddim i demtasiwn. Y mae’r ysbryd yn ddigon parod, ond y mae’r cnawd yn wan.”
39Aeth ymaith eto, a gweddïo, yr un modd. 40Wedi dychwelyd fe’u cafodd yn cysgu eto oherwydd bod trymder cwsg arnyn nhw, a wydden nhw ddim beth i’w ddweud wrtho. 41Yna daeth yn ôl y drydedd waith, ac fe ddywedodd wrthyn nhw, “Ai cysgu a dal i orffwys rydych fyth? Digon yw. Mae’r amser wedi dod. Mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo dynion drwg. Codwch. 42Awn! Edrychwch, y mae fy mradwr wrth law.”
43A’r funud honno, ac yntau heb orffen siarad, cyrhaeddodd Jwdas, un o’r deuddeg, a thyrfa gydag ef yn cario cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith a’r henuriaid. 44Roedd y bradwr wedi rhoi yr arwydd iddyn nhw, “Hwnnw fyddaf fi’n ei gusanu yw’r dyn. Deliwch afael arno ac ewch ag ef ymaith yn ddiogel.”
45Yna, yn ddiymdroi wedi dod i’r lle, aeth Jwdas ymlaen ato a dweud wrtho, “Athro,” a rhoi cusan iddo.
46A dyma nhw’n gafael ynddo a’i ddal. 47Fe fynnodd un o’r rhai a safai yno ei gleddyf a tharo gwas y Prif Offeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. 48Dywedodd yr Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi wedi dod allan â chleddyfau a phastynau i’m dal fel pe bawn i’n lleidr pen-ffordd? 49Roeddwn beunydd yn eich plith yn y Deml yn dysgu, ond roesoch chi mo’ch dwylo arnaf. Ond rhaid cyflawni yr Ysgrythurau.”
50Yna fe gefnodd pawb arno, a’i gwadnu oddi yno.
51Roedd rhyw ddyn ifanc yn ei ddilyn heb ddim amdano ond lliain. Fe roeson nhw eu dwylo ar hwnnw 52ond dihangodd o’u gafael a ffoi yn noeth wedi gadael y lliain ar ôl.
Yn nhŷ yr archoffeiriad
53Yna arweiniodd y dyrfa yr Iesu i dŷ’r Prif Offeiriad lle roedd yr holl brif offeiriaid a’r henuriaid ac athrawon y Gyfraith wedi dod ynghyd. 54Dilynodd Pedr ef o bell hyd gyntedd tŷ’r Prif Offeiriad, ac eisteddodd yno i ymdwymo wrth y tân gyda’r gweision.
55Ceisiodd y prif offeiriaid a’r holl Gyngor gamdystiolaeth yn erbyn yr Iesu er mwyn ei roi i farwolaeth, ond ddaethon nhw o hyd i ddim. 56Deuai llawer ymlaen i dystio celwydd amdano, ond doedd eu tystiolaethau ddim yn cyd-fynd â’i gilydd. 57Cododd rhywrai a thystio’n gelwyddog a dweud, 58“Clywsom ef yn dweud, ‘Fe dynnaf yn sarn y Deml hon o waith llaw a chodaf un arall mewn tri diwrnod heb fod o waith llaw’.”
59Ond ynglŷn â hyn hefyd, nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. 60Yna cododd y Prif Offeiriad yn y canol a gofyn i’r Iesu, “Oes gennyt ti ddim ateb? Beth am y cyhuddiad a ddwg y rhain yn dy erbyn?”
61Ond ddywedodd ef ddim; ni roddodd yr un ateb.
Gofynnodd y Prif Offeiriad iddo eto, “Ai ti yw’r Meseia, Mab y Bendigedig?”
62Atebodd yr Iesu, “Ie, fi yw, ac fe gewch weld Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dod gyda chymylau’r nef.”
63Ar hyn rhwygodd y Prif Offeiriad ei wisg a dywedodd, “Pa dystion eraill sy eisiau arnom? 64Nawr fe glywsoch y cabledd. Beth yw’ch barn chi?”
Roedden nhw’n unfryd o’r farn ei fod yn haeddu marw. 65A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb a’i gernodio, a dweud wrtho, “Proffwyda.”
Fe ddechreuodd y gweision hefyd ei daro â’u dwylo.
Cwymp Pedr
66Roedd Pedr i lawr yn yr iard, a dyma un o forynion y Prif Offeiriad yn dod a sylwi arno’n ymdwymo. 67Gan edrych yn fanwl arno dywedodd wrtho, “Roeddet tithau hefyd gyda’r Nasaread Iesu.”
68Gwadu’r peth a wnaeth Pedr, a dweud, “Wn i ddim o gwbl, dydw i ddim yn deall am beth rwyt ti’n sôn.”
Yna aeth allan i’r porth, a chanodd y ceiliog. 69Gwelodd y forwyn ef eto, a dywedodd wrth y rhai a safai gerllaw, “Mae ef yn un ohonyn nhw.”
70Gwadu eilwaith a wnaeth Pedr. Cyn hir dyma’r rhai a safai gerllaw yn dweud wrth Pedr, “Mae’n rhaid dy fod yn un ohonyn nhw, achos Galilead wyt.”
71Ar hyn torrodd allan i regi a thyngu, “Dydw i ddim yn nabod y dyn rydych yn siarad amdano.”
72Y foment honno fe ganodd y ceiliog eilwaith, ac fe gofiodd Pedr y gair a ddywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith fe’m gwedi deirgwaith.”
A dechreuodd wylo.

Dewis Presennol:

Marc 14: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda