Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 13

13
Rhagweld dinistr y Deml
1Ac wrth iddo fynd allan o’r Deml dywedodd un o’i ddisgyblion wrtho, “Edrych, Athro. Dyna gerrig! A dyna adeiladau!”
2Ac meddai’r Iesu wrtho, “Weli di’r adeiladau anferth hyn? Ni adewir yma garreg ar garreg heb eu dymchwelyd.”
Arwyddion yr amserau
3Wedyn, pan oedd yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r Deml, gofynnodd Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo’n dawel bach, 4“Dywed wrthym pa bryd y digwydd hyn, a pha arwydd a ddengys fod y pethau hyn i gyd ar ddod i ben?”
5Dechreuodd yr Iesu siarad a dweud wrthyn nhw, “Cymerwch ofal rhag i neb eich twyllo chi. 6Fe ddaw llawer yn cymryd fy enw i arnyn nhw a dweud, ‘Myfi yw,’ ac fe dwyllan nhw lawer. 7A phan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, peidiwch ag ofni. Rhaid i’r pethau hyn ddigwydd, ond y mae’r diwedd eto i ddod. 8Fe gwyd cenedl mewn rhyfel yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Fe grŷn y ddaear i’w seiliau mewn llawer lle, ac fe welir newyn. Ond dechrau gwewyr esgor oes newydd fydd y pethau hyn; 9a bydd rhaid i chi feddwl amdanoch ein hunain, oherwydd fe’ch llusgir o flaen llysoedd, a chewch eich chwipio mewn synagogau, a’ch gosod o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o’m hachos i, i roi tystiolaeth iddyn nhw. 10Ond rhaid yn gyntaf gyhoeddi’r Efengyl i’r holl genhedloedd. 11Felly, pan gymeran nhw chi i’r ddalfa, peidiwch â gofidio beth i’w ddweud. Fe gewch chi’r geiriau priodol yr adeg honno, oherwydd nid chi’ch hunain fydd yn llefaru ond yr Ysbryd Glân. 12Bydd brawd yn bradychu brawd i farwolaeth; a thad ei blentyn; bydd plant yn codi yn erbyn eu rhieni a’u lladd. 13Cewch eich casáu gan bawb oherwydd f’enw i; ond y sawl fydd yn dal ei dir hyd y diwedd fydd yn cael ei gadw.”
Dioddefaint enbyd
14“Pan welwch ‘hen beth ffiaidd lle anghyfannedd’ yn sefyll lle ni ddylai, (dealled y darllenydd hyn), yna rhaid i’r rhai sydd yn Jwdea gilio i’r mynyddoedd. 15Peidied neb a ddigwyddo fod ar do ei dŷ â dod i lawr i’r tŷ na mynd i mewn i gymryd dim o’i dŷ; 16a’r sawl a fyddo yn y maes peidied â throi yn ôl i gyrchu ei fantell. 17Druan o’r gwragedd sy’n disgwyl plant, a’r rhai â phlant sugno, yn y dyddiau hynny. 18Gweddïwch nad tymor y gaeaf fydd hi pan ddigwydd hyn, 19oherwydd bydd y dyddiau’n dod â gorthrymder na fu erioed ei debyg er dechrau creadigaeth Duw hyd yn awr, ac na fydd eu tebyg fyth eto. 20Onibai i’r Arglwydd gwtogi’r dyddiau hynny fyddai dim un dyn wedi’i adael yn fyw; ond y mae wedi eu cwtogi, er mwyn ei bobl ei hun — ei ddewis rai. 21Felly, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrychwch, dyma’r Meseia,’ neu ‘Dacw fe’, peidiwch â’i gredu. 22Oherwydd fe gwyd llawer gau Feseia a llawer gau broffwyd, ac fe wnân nhw arwyddion a rhyfeddodau i gamarwain, os gallan nhw, y rhai a ddewisodd Duw. 23Byddwch, felly, yn wyliadwrus. Rhybuddiais chi ymlaen llaw am y cyfan.
Digwyddiadau rhyfeddol
24“Yn y dyddiau hynny, wedi i’r gorthrymder hwnnw fynd heibio, fe dywyllir yr haul, ac ni rydd y lleuad mo’i goleuni; 25bydd y sêr yn syrthio o’r ffurfafen, a bydd pwerau’r nef yn gwegian. 26Yna fe welan nhw Fab y Dyn yn dod ar y cymylau â nerth mawr a gogoniant. 27Ac fe fydd yn danfon ei angylion i gasglu ei ddewis rai o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.
28“Dysgwch wers oddi wrth y pren ffigys. Cyn gynted ag y bydd ei flagur tyner yn ymddangos ac y bydd yn deilio, fe wyddoch fod yr haf yn agos. 29Yn union felly, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, fe wybyddwch ei fod yn agos, wrth y drws. 30Credwch fi, ni ddaw’r genhedlaeth hon i ben cyn i’r holl bethau hyn ddigwydd. 31Fe â nef a daear heibio, ond nid â fy ngeiriau i heibio fyth. 32Ond am y dydd hwnnw a’r awr honno, does neb a ŵyr — hyd yn oed angylion y nefoedd, na’r mab, ond y Tad yn unig.
Pwysigrwydd bod yn effro
33“Gwyliwch a byddwch effro. Wyddoch chi ddim pa bryd y daw’r amser. 34Y mae’n debyg i ddyn ymhell o dref a adawodd ei dŷ yng ngofal ei weision, a rhoi i bob un ei waith, a siarsio ceidwad y porth i gadw’n effro. 35Gwyliwch, oherwydd wyddoch chi ddim pa funud y daw meistr y tŷ — gyda’r hwyr, neu ar hanner nos, neu ar ganiad y ceiliog, neu gyda’r wawr — 36rhag ofn y daw yn ddirybudd a’ch cael chi’n cysgu. 37A’r hyn a ddywedaf wrthych chi, a ddywedaf wrth bawb, ‘Gwyliwch’.”

Dewis Presennol:

Marc 13: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda