Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 15

15
Crist gerbron Peilat
1Cyn gynted ag y daeth y bore ymgynghorodd y prif offeiriaid gyda’r henuriaid ac athrawon y Gyfraith a’r holl Gyngor; ac wedi rhwymo’r Iesu fe aethon nhw ag ef i’w roi i ofal Peilat. 2Gofynnodd hwnnw iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?”
Atebodd yntau, “Ti sydd yn ei ddweud.”
3Fe ddaeth y prif offeiriaid a’i gyhuddo o lawer o bethau. 4Unwaith eto gofynnodd Peilat iddo, “Oes gennyt ti ddim ateb? Fe weli faint o gyhuddiadau maen nhw’n eu dwyn i’th erbyn.”
5Ond nid atebodd yr Iesu air ymhellach, er mawr syndod i Beilat.
6Yn ystod yr ŵyl arferai’r rhaglaw ryddhau un carcharor, yr un y gofynnen nhw amdano. 7A digwyddai fod dyn a elwid Barabbas yn y ddalfa gyda’r gwrthryfelwyr a laddodd rai pobl yn ystod y terfysg. 8Felly, pan aeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn iddo wneud fel yr arferai iddyn nhw, 9atebodd Peilat, “Hoffech chi i mi ryddhau i chi Frenin yr Iddewon?” 10Oherwydd fe wyddai mai o genfigen y daethon nhw â’r Iesu o’i flaen.
11Ond dyma’r prif offeiriaid yn cynhyrfu’r dyrfa er mwyn cael Peilat i ryddhau Barabbas iddyn nhw yn hytrach na’r Iesu. 12Unwaith eto gofynnodd Peilat iddyn nhw, “Beth a wnaf, felly, â Brenin yr Iddewon?”
13A dyna nhw’n gweiddi, “Croeshoelia ef.”
14“Ond pa ddrwg wnaeth ef?” gofynnodd Peilat iddyn nhw.
Gweiddi’n uwch eto a wnaeth y dyrfa, “Croeshoelia ef.”
15Felly, yn ei awydd i ryngu bodd y dyrfa, gollyngodd Peilat Barabbas yn rhydd iddyn nhw, gan orchymyn chwipio’r Iesu a mynd ag ef i’w groeshoelio.
Y milwyr yn gwawdio’r Iesu
16Aeth y milwyr â’r Iesu i mewn i’r neuadd, ym mhlas y rhaglaw, a galw ynghyd yr uned filwrol yn llawn. 17Yna fe roeson nhw wisg borffor amdano a phlethu coron o ddrain a’i rhoi ar ei ben a 18dechrau ei gyfarch, “Henffych well, Brenin yr Iddewon,” 19yna curo ei ben â gwialen a phoeri arno, gan blygu glin mewn ffug-wrogaeth iddo. 20Wedi ei wawdio, a thynnu’r wisg borffor oddi amdano, a rhoi ei ddillad ei hun yn ôl amdano, fe aethon ag ef ymaith i’w groeshoelio.
Y croeshoeliad
21Roedd Simon o Gyrene, tad Alecsander a Rwffws, yn digwydd mynd heibio ar ei ffordd o’r wlad, a gorfododd y milwyr ef i gario croes yr Iesu. 22Fe ddaethon nhw ag ef i’r lle a elwid Golgotha, (ystyr yr enw yw, lle’r Benglog). 23Cynigiwyd iddo win chwerw ond fe’i gwrthododd. 24Yna hoeliwyd ef i’r groes, a rhannu ei ddillad ymhlith ei gilydd gan fwrw coelbren i benderfynu rhan pob un. 25Naw o’r gloch y bore oedd hi pan hoeliwyd ef i’r groes; 26ac fel hyn y darllenai’r ysgrifen a ddangosai’r cyhuddiad yn ei erbyn: BRENIN YR IDDEWON. 27Gydag ef croeshoeliwyd dau leidr pen-ffordd, un ar y dde iddo a’r llall ar y chwith.
Ymddygiad y tystion
29Ac roedd rhai, wrth fynd heibio, yn ei wawdio gan ysgwyd eu pennau a dweud, “Ha, ti oedd yn mynd i dynnu’r Deml yn sarn a’i hail-godi mewn tridiau, 30tyrd i lawr oddi ar y groes ac achub dy hunan.”
31Yr un modd fe wnaeth y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith ef yn destun sbort rhyngddyn nhw a’i gilydd, “Achubodd eraill, ond ni all ei achub ei hun. 32Gadewch i ni weld y Meseia, Brenin Israel, yn dod i lawr yn awr oddi ar y groes, ac fe’i credwn.”
Dannod iddo hefyd a wnaeth y rhai a gafodd eu croeshoelio gydag ef.
Yr Iesu’n trengi
33Ganol dydd aeth hi’n dywyll dros y wlad i gyd, a pharhaodd felly hyd dri o’r gloch y prynhawn; 34ac am dri llefodd yr Iesu’n uchel, “Eloi, Eloi, lama sabachthani!” hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y cefnaist arnaf fi?”
35O glywed hyn dywedodd rhywrai a safai yn ymyl, “Clywch, y mae’n galw ar Eleias.”
36Rhedodd rhywun a llanw ysbwng â gwin chwerw, ei osod ar wialen, a’i roi iddo i’w yfed, gan ddweud, “Gedwch i ni weld a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr.”
37Yna rhoddodd yr Iesu lef uchel, a bu farw. 38Fe rwygwyd llen y Deml yn ddwy, o’r pen uchaf i’r godre. 39Ac wedi gweld y ffordd y bu farw dywedodd y canwriad a safai gyferbyn ag ef, “Mewn difri calon, roedd y dyn hwn yn fab i Dduw.”
Y gwragedd ffyddlon
40Roedd nifer o wragedd yno hefyd yn cadw golwg o bell, ac yn eu plith Mair o Fagdala, a Mair mam Iago’r ieuaf, a Joses, a hefyd Salome — 41gwragedd a fu’n ei ddilyn a gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a nifer o wragedd eraill a ddaethai gydag ef i Jerwsalem.
42Erbyn hyn roedd hi’n hwyr y dydd, a chan ei bod yn ddydd paratoi, hynny yw, y dydd cyn Dydd Gorffwys yr Iddewon, 43daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr o fri — yntau’n un a ddisgwyliai’n eiddgar am ddyfodiad teyrnasiad Duw — a mentrodd fynd at Beilat a gofyn iddo am gorff yr Iesu. 44Synnodd Peilat o gael ar ddeall ei fod eisoes wedi marw. Danfonodd felly am y canwriad, a gofyn iddo a oedd wedi bod yn farw’n hir. 45Wedi cael gwybod hyn gan y canwriad, rhoddodd ganiatâd i Joseff gymryd y corff. 46Felly, prynodd Joseff liain, a thynnodd gorff yr Iesu i lawr o’r groes, a lapio’r lliain amdano; yna, dododd ef mewn bedd a naddwyd o’r graig, a rholio carreg ar draws yr agoriad. 47Gwelodd Mair o Fagdala a Mair mam Joses y man y rhoddwyd ei gorff i orwedd.

Dewis Presennol:

Marc 15: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda