Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 49

49
Joseia
1Y mae coffadwriaeth Joseia fel arogldarth
wedi ei weithio'n fedrus a'i ddarparu gan beraroglydd;
y mae ei felyster fel mêl i bob genau,
neu fel cerddoriaeth mewn gwledd o win.
2Gweithredodd ef yn uniawn er tröedigaeth y bobl,
gan fwrw ymaith bob ffieiddbeth anghyfreithlon.
3Cyfeiriodd ei galon yn union at yr Arglwydd,
ac yn nyddiau gwrthod y gyfraith bu'n gadarn ei ymlyniad wrth wir grefydd.
Jeremeia
4Ac eithrio Dafydd a Heseceia a Joseia,
pentyrru trosedd ar drosedd a wnaeth pob brenin;
cefnasant ar gyfraith y Goruchaf.
Ac felly y darfu am frenhinoedd Jwda,
5oherwydd ildiasant eu gallu i eraill
a'u gogoniant i genedl estron.
6Llosgwyd y ddinas etholedig, cartref y cysegr,
a gadael ei heolydd yn ddiffeithwch,
7fel y proffwydodd Jeremeia, y gŵr hwnnw a gamdriniwyd,
ac yntau wedi ei gysegru'n broffwyd yn y groth,
i ddiwreiddio, i ddrygu ac i ddinistrio,
a hefyd i adeiladu ac i blannu.
Eseciel
8Gwelodd Eseciel yntau weledigaeth o'r gogoniant
a ddatguddiwyd iddo uwchlaw cerbyd y cerwbiaid.
9Oherwydd cofiodd Duw am ei elynion â chawod ei ddigofaint,
a'r rhai union eu llwybrau â'i fendithion.
Y Deuddeg Proffwyd
10Bydded i esgyrn y deuddeg proffwyd, felly,
egino eto o'r ddaear lle'u claddwyd,
oherwydd rhoesant gysur i Jacob
a gwaredu'r bobl â'u gobaith ffyddiog.
Sorobabel a Josua
11Sut y mae datgan mawredd Sorobabel?
Yr oedd ef fel sêl-fodrwy ar law dde'r Arglwydd.
12A'r un modd Josua fab Josedec.
Dyma'r ddau yn eu dydd a adeiladodd y tŷ
a chodi i'r Arglwydd deml sanctaidd,
wedi ei darparu i ogoniant tragwyddol.
Nehemeia
13Rhagorol hefyd yw coffadwriaeth Nehemeia,
a gododd i ni y muriau a syrthiasai,
ac atgyweirio'r pyrth a'r barrau
ac ailadeiladu ein tai.
Y Patriarchiaid
14Ni chrewyd neb ar y ddaear i'w gymharu ag Enoch,
oherwydd cymerwyd ef i fyny oddi ar y ddaear.
15Ni anwyd chwaith neb tebyg i Joseff,
llywodraethwr ei frodyr a chadernid ei bobl;
y mae ei esgyrn ef wedi eu cadw'n ddiogel.
16Cafodd Sem a Seth fri ymhlith y bobl,
ond goruwch pob peth byw yn y greadigaeth y mae Adda.

Dewis Presennol:

Ecclesiasticus 49: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda