Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 50

50
Simon fab Onias
1Yr archoffeiriad Simon fab Onias,
dyma'r gŵr a atgyweiriodd y deml yn ystod ei fywyd,
a chadarnhau'r cysegr yn ei ddydd.
2Ganddo ef hefyd y gosodwyd sylfeini'r mur o ddau uchdwr,
y mur uchel o amgylch mangre'r deml.
3Yn ei ddydd ef y cloddiwyd#50:3 Cywiriad o destun Groeg llgwr sy'n golygu lleihawyd. y gronfa ddŵr,
yn bwll tebyg i'r môr yn ei ehangder.
4Dyma'r gŵr a roes ei fryd ar arbed ei bobl rhag cwympo,
ac a gryfhaodd amddiffynfeydd y ddinas yn erbyn gwarchae.
5Mor ogoneddus ydoedd, a'r bobl yn tyrru o'i gwmpas
wrth iddo ddod allan trwy len y deml!
6Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau,
neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;
7fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf,
fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,
8fel rhosyn yn blodeuo yn y gwanwyn,
fel lili ger ffynnon o ddŵr,
fel pren thus yn yr haf,
9fel arogldarth yn llosgi mewn thuser,
fel llestr o aur coeth
wedi ei addurno â meini gwerthfawr o bob rhyw fath,
10fel olewydden yn llwythog â ffrwyth,
ac fel cypreswydden a'i phen yn y cymylau.
11Pan roddai amdano ei fantell ogoneddus,
ac ymwisgo yn ei gyflawn ysblander,
wrth fynd i fyny at yr allor sanctaidd
byddai'n tywynnu gogoniant ar fangre'r cysegr.
12Wrth gymryd darnau'r aberth o ddwylo'r offeiriaid,
ac yntau'n sefyll wrth le tân yr allor,
a'i frodyr yn dorch o'i amgylch,
yr oedd fel cedrwydden ifanc yn Lebanon
yng nghanol coedlan o balmwydd.
13A holl feibion Aaron yn eu gwychder,
ac offrymau'r Arglwydd yn eu dwylo,
yn sefyll o flaen cynulleidfa gyflawn Israel,
14byddai yntau'n cwblhau defodau'r allorau,
a rhoi trefn ar yr offrwm i'r Goruchaf a'r Hollalluog:
15yn estyn ei law at gwpan y diodoffrwm
ac yn arllwys ohono waed y grawnwin,
gan ei dywallt wrth droed yr allor,
yn berarogl i'r Goruchaf, Brenin pawb.
16Yna gwaeddai meibion Aaron
a chanu eu hutgyrn o fetel coeth,
nes bod y sŵn yn atseinio'n hyglyw
i'w hatgoffa gerbron y Goruchaf.
17Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilydd
yn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaear
i addoli eu Harglwydd,
yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.
18Codai'r cantorion eu lleisiau mewn mawl,
gan felysu'r gân ag amryfal seiniau;
19a'r bobl hwythau'n ymbil ar yr Arglwydd Hollalluog,
mewn gweddi gerbron y Duw Trugarog,
nes cwblhau trefn addoliad yr Arglwydd
a dirwyn y gwasanaeth i ben.
20Wedyn dôi Simon i lawr a chodi ei ddwylo
dros gynulleidfa gyfan Israel,
i gyhoeddi bendith yr Arglwydd â'i wefusau,
gan orfoleddu yn ei enw ef.
21A byddai'r bobl yn ymgrymu eilwaith mewn addoliad,
i dderbyn y fendith gan y Goruchaf.
Bendithio Duw
22Ac yn awr, bendithiwch Dduw'r cyfanfyd,
sy'n cyflawni ei fawrion weithredoedd ym mhobman,
sy'n mawrhau ein dyddiau o'n geni,
ac yn ymwneud â ni yn ôl ei drugaredd.
23Rhoed ef inni lawenydd calon,
a llenwi ein dyddiau ni â heddwch,
a dyddiau Israel hefyd am byth.
24Rhoed inni sicrwydd o'i drugaredd
a gwaredigaeth yn ein dyddiau#50:24 Yn ôl darlleniad arall, yn ei ddyddiau.
Cenhedloedd Atgas
25Y mae dwy genedl sy'n gas gennyf,
a thrydedd, nad yw'n genedl o gwbl:
26preswylwyr Mynydd Seir,#50:26 Felly Hebraeg. Groeg, Samaria. a'r Philistiaid,
a'r bobl ynfyd sy'n trigo yn Sichem.
Doethineb Iesu Fab Sirach
27Hyfforddiant mewn deall a gwybodaeth
a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn
gennyf fi, Iesu fab Sirach, o Jerwsalem;
ynddo yr arllwysais y ddoethineb a darddodd o'm meddwl.
28Gwyn ei fyd y sawl sy'n ymdroi gyda'r pethau hyn;
o'u trysori yn ei galon fe ddaw'n ddoeth;
29o'u gweithredu, caiff nerth at bob gofyn.
Oherwydd bydd goleuni'r Arglwydd ar ei lwybr.

Dewis Presennol:

Ecclesiasticus 50: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda