Ecclesiasticus 48
48
Elias
1Yna cododd Elias, proffwyd a oedd fel tân,
a'i air yn llosgi fel ffagl.
2Daeth â newyn arnynt,
a thrwy ei sêl fe'u gwnaeth yn ychydig.
3Trwy air yr Arglwydd fe gaeodd y nefoedd,
a'r un modd daeth â thân i lawr deirgwaith.
4Mor ogoneddus fuost, Elias, yn dy weithredoedd rhyfeddol!
Gan bwy y mae hawl i ymffrostio fel tydi?
5Ti, yr hwn a gododd gelain o farwolaeth,
ie, o Drigfan y Meirw, trwy air y Goruchaf;
6a fwriodd frenhinoedd i ddistryw,
a gwŷr o fri o'u gwelyau i'w tranc;
7a glywodd geryddu yn Sinai
a dyfarnu dial yn Horeb;
8a eneiniodd frenhinoedd i dalu'r pwyth,
a phroffwydi i fod yn olynwyr iddo;
9a gymerwyd i fyny mewn corwynt o dân,
mewn cerbyd a'i geffylau yn wenfflam;
10ie, yr hwn yr ysgrifennwyd amdano y daw â'i geryddon yn eu priod amserau,
i ostegu'r llid cyn dyfod y digofaint,
i gymodi tad â'i fab
ac i adfer llwythau Jacob.
11Gwyn eu byd y rhai a'th welodd
ac a hunodd yn dy#48:11 Yn ôl darlleniad arall, a addunedwyd â'th. gariad;
oherwydd fe gawn ni fyw yn ddiau.#48:11 Felly Groeg; y mae'r Fersiynau yn gadael allan oherwydd… yn ddiau.
Eliseus
12Wedi i Elias ddiflannu yn y corwynt,
llanwyd Eliseus â'i ysbryd ef.
Trwy gydol ei ddyddiau ni tharfwyd arno gan lywodraethwr,
ac ni allodd neb gael y trechaf arno.
13Ni bu dim y tu hwnt iddo,
ac wedi iddo huno, proffwydodd ei gorff.
14Yn ei fywyd gwnaeth ryfeddodau,
ac yn ei farwolaeth weithredoedd i synnu atynt.
Cosbi'r Genedl Anffyddlon
15Er hyn i gyd, nid edifarhaodd y bobl,
na chefnu ar eu pechodau,
nes eu dwyn yn ysbail o'u gwlad
a'u gwasgaru ar hyd a lled y ddaear.
Gadawyd y genedl yn fechan iawn
dan lywodraethwr o dŷ Dafydd,
16rhai ohonynt a'u gweithredoedd yn gymeradwy,
ac eraill yn pentyrru pechodau.
Heseceia
17Gwnaeth Heseceia ei ddinas yn gadarnle,
a dwyn dŵr i mewn i'w chanol hi;
tyllodd drwy'r graig ag offer o haearn
a llunio cronfeydd i'r dyfroedd.
18Yn ei ddyddiau ef daeth Senacherib i ymosod ar y wlad,
ac anfonodd Rabsace o Lachis;#48:18 Yn ôl darlleniad arall, Rabsace, ac aeth ymaith.
cododd ei law yn erbyn Seion, gan ymffrostio'n drahaus.
19Yna, a'u calonnau a'u dwylo yn gryndod i gyd,
ac mewn gwewyr fel gwragedd yn esgor,
20galwasant ar yr Arglwydd trugarog,
gan estyn eu dwylo tuag ato;
a buan y gwrandawodd yr Un Sanctaidd o'r nef arnynt,
a'u gwaredu trwy law Eseia.
21Trawodd wersyll yr Asyriaid,
a'u difa trwy ei angel.
Eseia
22Oherwydd gwnaeth Heseceia yr hyn a ryngai fodd yr Arglwydd,
a chadw'n ddiysgog at ffyrdd Dafydd ei gyndad,
yn unol â gorchymyn Eseia,
y proffwyd mawr y gellid ymddiried yn ei weledigaeth.
23Yn ei ddyddiau ef fe drowyd yr haul yn ei ôl,
ac estynnodd ef einioes y brenin.
24Trwy ysbrydoliaeth fawr rhagwelodd y pethau olaf,
a rhoes gysur i'r galarwyr yn Seion.
25Datguddiodd y pethau oedd i ddod hyd ddiwedd amser,
a'r pethau dirgel, cyn iddynt ddigwydd.
Dewis Presennol:
Ecclesiasticus 48: BCNDA
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004