Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 57

57
SALM LVII
Miserere mei.
Dafydd yn anialwch Ziph yn galw ar Dduw drwy ymddiried yn ei addewid ef. Ac y dangosai ef ei ogoniant. Am hynny y mae ef yn rhoi diolch a mawl.
1Dy ras, dy nawdd, (fy Nuw) ym’ dod,
sef ynod ymddiriedaf,
Nes myned heibio’r aflwydd hyn
dan d’edyn ymgyscodaf.
2Ymddiried f’enaid ar Dduw sydd,
ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,
Ac a gwblhaf ei air yn iawn,
sef cyfiawn yw’r Goruchaf.
3O’r nef yr enfyn geidwad y’m,
rhag nerth dyn llym a’m llyngcai:
Enfyn fy Nuw ei nawdd a’i hedd,
a’i lân wirionedd didrai.
4Ym mysg y llewod mae fy oes,
plant dynion poethfoes eiriau,
Eu dannedd sydd fel gwayw neu saeth,
a’i tafod gwaeth nâ’r cleddau.
5Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,
oddiyno daw d’arwyddion:
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar, a’i thrigolion.
6O flaen fy nrhaed y rhoesant rwyd,
ac felly’m rhwymwyd weithian:
Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,
i’r hwn yn hawdd syrthiasan.
7Parod yw fy nghalon (o Dduw)
o parod yw fy nghalon.
Canaf yt’ a datcanaf wawd
o fawl fy nhafawd cyson.
8Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd,
Nabl a thelyn, eb ado un,
deffrof fy hun ar las ddydd.
9Mawl yt (o Arglwydd) pan ddeffrof
a rof ymysg y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnâf
lle amlaf y cenhedloedd.
10Cans crrhaeddyd y mae dy râs
hyd yn’nhyrnas y nefoedd:
A’th wirionedd di hyd at len
yr wybren, a’i thyrnasoedd.
11Ymddercha (Dduw) y nef uwchlaw,
oddiyno daw d’arwyddion:
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a’i thrigolion.

Dewis Presennol:

Y Salmau 57: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda