Y Salmau 56
56
SALM LVI
Miserere mei.
Dafydd yn achwyn rhag ei elynion: ac yn gofyn cymorth, ac yn ymddiried yn Nuw. Ac yn addaw ei foli ef yn ei Eglwys.
1Duw dy nawdd ym rhag marwol ddyn
hwn yn ei wyn a’m llyngcai:
Sef ymryfelu a mi bydd,
a beunydd i’m gorthrymmai.
2Llyncent fi beunydd o dra châs,
(dy râs o Dduw goruchaf)
Rhai beilch rhy dynion maent yn llu
yn poeth ryfelu arnaf.
3Y dydd y bai mwyaf fy ofn
rhown ynot ddofn ymddiried.
4Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,
doi yn ddidlawd i’m gwared.
5Yn fy ymadrodd i fy hun,
y ceisiant lun i’m maglu:
Ac ar bob meddwl a phob tro
y maent yn ceisio ’nrygu.
6Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,
a disgwyl fy holl gerdded,
Drwy ymfwriadu i mi loes,
a dwyn i’m heinioes niwed.
7A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,
dod iddynt ffrwyth f’enwiredd:
Disgyn y bobloedd yn dy lid,
Duw felly bid eu diwedd.
8Duw rhifaist bob tro ar fy rhod,
fy nagrau dod i’th gostrel:
Ond yw pob peth i’th lyfrau di
a wneuthym i yn ddirgel?
9Y dydd y llefwyf, gwn yn wir
dychwelir fy ngelynion:
Am fod drosof fy Nuw â’i law,
mi a wna y daw yn union.
10Gorfoleddaf yngair fy Nuw,
gair f’Arglwydd byw a folaf,
11Yn Nuw y rhoi ymddiried siwr,
beth a wnel gwr nid ofnaf.
12O Dduw mae arnaf fi yn ddled
llawer adduned ffyddlon,
Ac mi a’i talaf hwynt yn rhydd
i ti fy Arglwydd cyfion.
13Am yt ludd dwyn fy oes a’m gwaed,
a llestair i’m traed lithro,
Fel y rhodiwy’ fi gar dy fron
yngolau’r bywion etto.
Dewis Presennol:
Y Salmau 56: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017