Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 55

55
SALM LV
Exaudi Deus.
Dafydd yn ofni Saul yn a ruthr, ac yn gweddio, ac yn achwyn faint ei greulondeb ef.
1O Dduw gwrando fy ngweddi brudd,
nac ymgudd rhag fy nghwynfan,
2Erglyw a gwyl fy ngwael ystâd,
a llais fy nâd a’m tuchan.
3Hyn rhag rhuadaidd lais fy nghâs,
a phwys dyn llym iâs enwir,
Y rhai a daerant arnaf ddrwg,
a’i llid yn amlwg gwelir.
4Gofid calon sy’n dwyn fy oes,
daeth angau loes hyd attaf.
5Mae ofn ac arswyd arnaf caeth,
a dychryn daeth ar f’uchaf.
6O dra ofn dwedwn yn fy nghri,
gwae fi am esgyll clommen,
Yna’r ehedwn i le rhydd,
i gael ym’ lonydd amgen.
7Wele, awn i grwydro ym mhell,
lle cawn ystafell fachog.
8Yna y bryssiwn ar fy hynt
rhac rhuad gwynt tymestlog.
9Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)
gwahana eu tafodau.
Sef yn y ddinas amlwg drais
a welais, a chynennau.
10Dydd a nos ei chylchu yn dro,
a rhodio rhyd ei chaerau,
O’i mewn y mae enwiredd mawr,
ac ar ei llawr bechodau.
11Gan faint ei henwireddau hi,
a maint drygioni beunydd,
Nid ymâd twyll na dichell chwaith
fyth ymaith o’i heolydd.
12Ac ni wnaeth fy nghâs y gwaith hyn:
pe gelyn, goddefaswn:
A phe dyn atgas yn ei roch,
yn hawdd y gochelaswn.
13Ond tydi wr, fy nghyfaill gwar,
fy nghymmar a’m cydnabod,
14A fu mewn cyd-gyfrinach ddwys
yn eglwys Dduw’n cyfarfod.
15Terfysg angau arnaw y del,
i’r pwll yr el yn lledfyw:
Sef ymherfedd eu cartref cau
nid oes ond drygau distryw.
16Minnau gweddiaf ar Dduw byw,
yr hwn a’m clyw mewn amser,
17Hwyr, a borau, a chanol dydd,
a hyn a fydd drwy daerder.
18Gwaredodd Duw yr enioes fau
mewn hedd yn nyddiau drygnaws,
Lle’r oedd or blaen yn ferbyn lu,
sef ar fy nhu troes liaws.
19Duw a’i gostwng hwynt,
ac a’m clyw, sef brenin yw er cynnoes.
Hwythau heb ymado â’i chwant,
fy Nuw nid ofnant eisoes.
20Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,
drwy godi braw a frochodd,
Ef â’r unllaw (yn erbyn hedd)
yr un glyfaredd torrodd.
21Ei eiriau fal ymenyn gwyrf,
a’i fwriad ffyrf am ryfel:
Pan fo oel ar ei dafod doeth
tyn gleddyf noeth yn ddirgel.
22O bwrw d’ofal ar dy Dduw,
o mynni fyw heb syrthio,
Duw a geidw y cyfion byth,
a’r drwg f’oi chwyth i gwympo.
23Sef pob dyn gwaedlyd bradog dro
nid oesa fo hyd hanner,
(Fy Arglwydd Dduw) ond ynot ti
mae’n gobaith i bob amser.

Dewis Presennol:

Y Salmau 55: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda