Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 54

54
SALM LIV
Deus in nomine.
Dafydd yn galw ar Dduw i ddinistrio ei elynion, drwy addo diolchgarwch.
1Duw yn d’enw cadw fi’n dda,
a barna i’th gadernid.
2Duw clyw fy ngweddi, gwrando ’nghwyn
a’m llef yn achwyn wrthyd.
3Cans codi’m herbyn i yn chwyrn
mae cedyrn ac estroniaid.
Ac heb osod Duw gar eu bron,
mor greulon ynt i’m henaid.
4Wele Duw fydd ym’ cymorth rhag
pwy bynnag a gais dial:
Duw sydd gyda’r rhai sy’ ar blaid
fy enaid, er ei gynnal.
5Efe a dâl o’r achos hon
i’m gelynion eu drygedd,
O torr di ymaith hwynt (fy Ion)
yn eigion dy wirionedd.
6Rhof aberth yt o wllys da,
a chlod-fora’ dy enw
Fy Arlwydd cymmwys ydyw hyn,
sef ti wyd yn fy nghadw,
7Gwir yw, Duw a’m gwaredodd i
o’m cyni a’m trallodion:
A’m llygad a gafodd ei fryd,
a’i wynfyd o’m caseion.

Dewis Presennol:

Y Salmau 54: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda