Y Salmau 53
53
SALM LIII
Dixit insipiens.
Dangos drwg naturiaeth dyn, a chosbedigaeth y drygionys. Gweddi dros y duwiol.
1Dwedai’r ynfyd wrtho’i hun
nad oes un Duw na dial:
Ei ddrwg ffieidd-dra a’i drais tynn,
a ddengys hyn yn ddyfal.
2Llygru yn ffiaidd maent drwy’r byd,
Oedd neb a geisiai Dduw yn gall,
nac oedd yn deall gronyn,
3Ciliasai bawb yn ol ei gefn,
a hwy drachefn cydlygrynt:
Nid oedd neb a wnelai yr iawn,
nac un yn gyfiawn honynt.
4Pa’m na ’styria gweithwyr traha
eu bod yn bwyta’ mhobloedd:
Fel y bara? ac heb ddim bri:
ni alwent fi o’r nefoedd.
5Ofn heb achos arnynt a ddaeth
y rhai a’ch caeth warchaeodd:
Cans trwy eu gwasgar hwy i bob parth,
mewn gwarth Duw a’i gwasgarodd.
6Och fi na roid i Israel
o Sion uchel iechyd:
Pan roddo Duw ei bobl ar led
o drom gaethiwed adfyd,
7Yna y bydd Jago yn iach,
ac Israel bach yn hyfryd:
Yna, ac drachefn.
Dewis Presennol:
Y Salmau 53: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017