Y Salmau 52
52
SALM LII
Quid gloriaris.
Dangos dull gorthrymydd, ac am ei ddiwedd: cysur i’r ffyddlon yn Nuw. Mae y Psalm hon yn gosod allan yn eglur dyrnasiad yr Anghrist.
1Pa’m y rhodresi yn dy frâd,
a’th ddrwg fwriad (o gadarn?)
A maint trugaredd Duw bob dydd,
ac felly bydd hyd dyddfarn.
2Dychymyg drwg yw’r fyfyrdawd,
a gwaith dy dafawd sceler,
Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,
a’i swydd yw gwneuthur ffalsder.
3Ni hoffaist dda, gwnaist ddrwg yn haws,
a’r traws, yn fwy nâ’r union,
4Hoffaist eiriau distryw a bâr,
ti golyn twyllgar, creulon.
5Duw a’th ddistrywia dithau byth,
fo dyn dy chwyth o’th gaban:
Ac a dyn dy wraidd di i gyd,
o dir y bywyd allan.
6Rhai a’i gwelant a arswydant,
cans hwy a ydynt gyfion:
A hwy a chwarddant am ei ben,
pan welont ddilen greulon.
7Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwys
ar Dduw na’i bwys na’i oglud,
Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,
a rhif a gwerth ei olud.
8Minnau fel oliwydden werdd
yn nhy Dduw, cerdd a ganaf,
Ymddiriedaf iddo yn hawdd,
byth dan ei nawdd y byddaf.
9Mi a’th folaf, a’th obeithiaf,
bythoedd drwy ymddiried.
Da yw dangos garbron dy Saint
dy enw, a maint dy weithred.
Dewis Presennol:
Y Salmau 52: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017