Y Salmau 46
46
SALM XLVI
Deus noster.
Diolch i Dduw am wared yr eiddo, ac annog y ffyddloniaid iw gorchymyn eu hunain i Dduw.
1Gobaith a nerth i’n yw Duw hael:
mae help iw gael mewn cyfwng.
2Daiar, mynydd, aent hwy i’r mor:
nid ofnaf f’angor deilwng.
3Pe ymgymysgai’r tir a’r dwfr,
nid ofnwn gynwfr rhuad,
Ped ai’r mynyddoedd i’r mor mawr
ar brynnieu i lawr y gwastad.
4Dinas Duw lle llawen a fydd,
cyfagos glennydd afon,
Cyssegr preswylfa y rhad,
gan ddyfal rediad Cedron.
5Duw sydd yn trigo o’i mewn hi
nid âd hi ’scogi unwaith:
Duw a’i cymyrth ar y wawr ddydd,
a phreswylfeydd perffaith.
6Y cenhedloedd pan fyddent ddig,
a ffyrnig y tyrnesydd,
Toddai y ddaiar o’i flaen ef
pam glywid llef Duw ddofydd.
7Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri’y lluoedd:
Y mae Duw Jago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o’r nefoedd.
8Y wlad, o dowch i gyd yn rhwydd,
a gwaith yr Arglwydd gwelwch,
Y modd y gosododd ef ar
y ddaiar anniddanwch.
9Gwna i ryfeloedd beidio’n wâr
hyd eitha’r ddaiar lychlyd:
Dryllia y bwa, tyr y ffon,
llysg y cerbydon hefyd.
10Peidiwch, gwybyddwch mai fi yw
eich unig Dduw a’ch gwanar,
Ymysg cenhedloedd mi ’a gâf barch,
a’m cyfarch ar y ddaiar.
11Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri y lluoedd,
Y mae Duw Jago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o’r nefoedd.
Dewis Presennol:
Y Salmau 46: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017