Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 45

45
SALM XLV
Eruotauit eur meum.
Anrhydedd, nerth, a phrydferthwch Salomon: bendithio ei briodas ef a’r Aiphtes, os hi a ymwrthodei â’i thylwyth, gan ddilyn ei gwr; a hyn yn arwydd o Ghrist a’r eglwys o’r cenhedloedd.
1Traethodd fy nghalon bethau da,
i’r brenin gwna’ fyfyrdod:
Fy nhafod fel y pin, y sydd
yn llaw scrifennydd parod.
2Uwch meibion dynion tegach wyd,
tywalldwyd rhad i’th enau,
Herwydd i Dduw roi arnat wlith
ei fendith byth a’i radau.
3Gwisg dy gleddau yng wasg dy glun,
o gadarn gun gogonedd:
A hyn sydd weddol a hardd iawn,
mewn llwydd a llawn orfoledd.
4Marchog ar air y gwir yn rhwydd,
lledneisrwydd, a chyfiownedd:
A’th law ddeau di a â drwy
bethau ofnadwy rhyfedd.
5A thanat ti pobloedd a syrth,
gan wyrth dy saethau llymion:
Briwant hwy, a glynant yn glau
ym mronnau dy elynion.
6Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)
a bery o dragwyddoldeb:
Awdurfaingc dy dyrnas y sydd
awdurol: rhydd uniondeb.
7Ceraist uniondeb: case’ist gam,
o achos pa’m: Duw lywydd,
Dy Dduw rhoes arnat ragor fraint,
sef ennaint y llawenydd.
8Aroglau myrh, ac aloes da,
a chasia sy ar dy ddillad,
Pan ddelych di o’th Ifyrn dai
lle i’th lawenai’r hollwlad.
9Sef merched brenhinoedd yn gwau
gyda’ch garesau cywir,
O’th du deau’r frenhines doeth
mewn gwisg aur coeth o Ophir.
10Clyw hyn, o ferch, a hefyd gwel,
ac a chlust isel gwrando:
Mae’n rhaid yt ollwng pawb o’th wlâd,
a thy dy dâd yn ango’.
11Yna’i bydd (gan y brenin) wych
gael edrych ar dy degwch:
Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,
i gael i’th oes hyfrydwch.
12Merched Tirus oedd â rhodd dda:
a’r bobloedd appla o olud:
A ymrysonent gar dy fron,
am roi anrhegion hefyd.
13Ond merch y brenin, glân o fewn,
anrhydedd llawn sydd iddi:
A gwisg o aur a gemmau glân
oddiallan sydd am dani.
14Mewn gwaith gwe nodwydd y daw hon
yn wych gar bron ei harglwydd,
Ac a’i gwyryfon gyda hi
daw attad ti yn ebrwydd.
15Ac mewn llawenydd mawr a hedd
ac mewn gorfoledd dibrin,
Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwys
i gyd i lys y brenin.
16Dy feibion yn attegion tau
yn lle dy dadau fyddant,
Tywysogaethau drwy fawrhâd,
yn yr holl wlâd a feddant.
17Coffâf dy enw di ymhob oes,
tra caffwyf einioes ymy:
Am hyn y bobloedd a rydd fawl,
byth yn dragwyddawl ytty.

Dewis Presennol:

Y Salmau 45: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda