1
Y Salmau 46:10
Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)
Peidiwch, gwybyddwch mai fi yw eich unig Dduw a’ch gwanar, Ymysg cenhedloedd mi ’a gâf barch, a’m cyfarch ar y ddaiar.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 46:10
2
Y Salmau 46:1-2
Gobaith a nerth i’n yw Duw hael: mae help iw gael mewn cyfwng. Daiar, mynydd, aent hwy i’r mor: nid ofnaf f’angor deilwng.
Archwiliwch Y Salmau 46:1-2
3
Y Salmau 46:4-5
Dinas Duw lle llawen a fydd, cyfagos glennydd afon, Cyssegr preswylfa y rhad, gan ddyfal rediad Cedron. Duw sydd yn trigo o’i mewn hi nid âd hi ’scogi unwaith: Duw a’i cymyrth ar y wawr ddydd, a phreswylfeydd perffaith.
Archwiliwch Y Salmau 46:4-5
4
Y Salmau 46:9
Gwna i ryfeloedd beidio’n wâr hyd eitha’r ddaiar lychlyd: Dryllia y bwa, tyr y ffon, llysg y cerbydon hefyd.
Archwiliwch Y Salmau 46:9
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos