We di we ddim in iawn, Lasarus o Bethania, o bentre Mair a'i whâr Martha. I Mair we wedi rhoi sent pert dros drâd ir Arglwidd a wedi sichu'i drâd e 'da'i gwallt, i brawd hi Lasarus we'n dost. So halo'r ddwy whâr neges at Iesu, in gweud, “Arglwidd, ma di ffrind in dost.” Pan gliwo Iesu gwedodd e, “Seno'r salwch 'ma in mind i oligu marw, ond gogoniant i Dduw, fel bo Crwt Duw in câlgogoniant trwiddo fe.” We Iesu in caru Martha a'i whâr a Lasarus. Pan gliwodd e bo fe'n dost, arosodd e am ddou ddwarnod lle wedd e; wedyn, ar ôl 'ny, gwedodd e wrth i ddisgiblion, “Gadwch i ni fynd i Jwdea shwrne 'to.” Gwedodd i ddisgiblion e, “Mishtir, jwst nawr we'r Iddewon in treial i gore i dowlu cerrig atat ti; wit ti'n mynd nôl 'na 'to?” Atebo Iesu, “Ma douddeg awr mewn dydd, on'd wes e? Os ma dyn in cered in gole dydd, seno fe mynd i dripo, achos mae e'n gweld gole'r byd hwn.” Wedi gweud 'na, wedodd e wedyn, “Ma Lasarus in ffrind ni wedi cwpo i gisgu; ond sena i ar in ffordd i ddihuno fe.” Gwedo'i ddisgiblion wrtho fe, “Arglwidd, os mae e wedi cwmpo i gisgu, bydd ein gwella.” We Iesu wedi sharad amdano'n marw, ond wen nhwy'n meddwl taw sharad am gisgu fel arfer wedd e. Wedyn gwedo Iesu wrthyn nhwy'n blaen, “Ma Lasarus wedi marw, a dw i'n falch ar ich cownt chi na wedn i ddim 'na, fel bo chii'n credu. Gadwch ini fynd ato fe.” So wedo Tomos (un o'r Twins) wrth i disgiblion erill, “Gadwch inni fynd ar in pene'n hunen, fel gallwn ni farw gidag e.”