We Cwrdde Mowr i Dediceshon in digwydd in Jerwsalem. Wedd i'n eia; a we Iesu'n cered in i deml, in cloestr Solomon. Dâth ir Iddewon rown 'ddo a gweu 'tho fe, “Am faint mor hir wit ti'n mynd in cadw ni'n dishgwyl? Os ti yw'r Meseia, gwêd ni'n agored.” Atebo Iesu nhwy, “Dw i wedi gweud wrthoch chi, ond senoch chi'n credu. Ma'r pethe dw i'n neud in enw in Dad in sharad amdana i; ond senoch chi'n credu, achos senoch chi'n ddefed i fi. Ma'n nefed i in grondo ar in llaish i; dw i in u nhabod nhwy a man nhwy in in ddilyn i. Dw i'n rhoi bowid am byth iddyn nhwy; a biddan nhwy byth in câl u colli, a bydd neb in galler mynd â nhw mas o'n llaw i. Ma beth ma'n Dad wedi rhoi i fi in fwy na dim byd arall, a sneb in galler mynd â dim byd mas o law i Tad. Ma'r Tad a fi in un.”
'Co'r Iddewon in pigo cerrig lan shwrne 'to i dowlu ato fe. Atebo Iesu nhwy, “Dangose i lot o bethe da wrth i Tad i chi. Am bwy un o'r pethe ma ŷch chi'n mynd i dowlu'r cerrig 'na ata i?” Atebo'r Iddewon, “Senon ni'n meddwl towlu'r cerrig 'ma atat ti achos i pethe da wit ti wedi neud, ond achos bo ti'n cablu, a achos bo ti, a ti in ddyn, in neud di hunan in Dduw.” Atebo Iesu nhwy, “Sen i wedi câl i reito in ich Cifreth chi. 'Gwedes i, ŷch chi'n dduwie'? Galwodd e nhwy'n dduwie, i rhai we wedi derbyn gair Duw, a gallwch chi ddim anghofio am ir Isgrithur. Ŷch chi wedyn in gweud wrth ir un nâth i Tad i farco fe mas fel rhiwun i neud gwaith sbeshal cyn iddo ddod miwn i'r byd, 'Wyt ti'n cablu', achos bo fi'n gweud, 'Crwt Duw wdw i'? Os nadw i'n neud gwaith in Dad, peidwch credu inda i; ond os wdw i'n neud, hyd 'n ôd os nadi chi in credu inda i, credwch in beth dw i'n neud, er mwyn ichi ddiall a gwbod fod i Tad inda i a bo fi in i Tad.” A shwrne 'to fe dreion nhwy i aresto fe; ond jengodd e mas o'u dwylo nhwy.
Âth e nôl weth dros afon Iorddonen i'r man lle we Ioan wedi bod in bididdio ar i dachre, a aros fan 'ny. Dâth lot ato fe. Gwedon nhwy. “We Ioan ddim in neud pethe, ond we popeth wedo Ioan am i dyn 'ma in wir.” A credo lot o ddinion indo fe fan 'ny.