Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 10:1-21

Ioan 10:1-21 DAFIS

Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, ma unrhiw un sy ddim in mind miwn i'r lloc trw'r bwlch, ond cleimo miwn rhyw ffor arall, in un sy'n dwgid a'n dwyn; ond ma bugel i defed in dwâd miwn trw'r bwlch. Ma'r un sy'n gofalu ar ôl i bwlch in i adel e trwyddo, a ma'r defed in cliwed i laish e; mae e'n galw i ddefed i hunan wrth u henwe a'n u harwen nhwy mas. Pan ddeith e mas â bopeth mae e pia bydd e'n cered o'u blân nhwy, a bydd i defed in i ddilyn e achos u bo nhwy'n nabod i laish e. Newn nhwy ddim dilyn dyn dierth achos senon nhwy'n nabod llaish dinion dierth.” Gwedo Iesu'r ddameg 'ma wrthyn nhwy, ond wenon nhwy in diall beth wedd e'n weud wrthyn nhwy. Gwedo Iesu shwrne 'to, “Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, fi yw'r bwlch i'r defed fynd trwyddo. Rhei'n dwgid a dwyn we pobun ddâth o'n flân i, ond nâth i defed ddim grondo arnyn nhwy. Fi yw'r bwlch; os deith rhiwun miwn trwidda i bydd e'n câl i safio, a geith fynd miwn a ffeindo porfa. Ma'r dyn dy'n dwyn in dod miwn in unswydd i ddwgid a lladd a distriwo. Dw i wedi dod fel bo dinion in câl bowid, a bo'r bowid 'na in well na gall neb i fesur. Fi yw'r bugel da. Ma'r bugel da in folon marw in lle i ddefed. Seno'r rhei sy'n câl u talu i neud i job in fugelied na'n pia'r defed, a gadan nhwy'r defed a jengid pan welan nhwy flaidd in dod, a ma'r blaidd in i dala nhwy a'n hala'r defed i bob man. Ma hyn in digwydd achos seno'r rhei sy'n câl talu in becso dim byd am i defed. Fi yw'r bugel da; dw i'n nabod in ddefed i, a man nhwy in in nabod i, fel ma'r Tad in in nabod i, a dw i'n nabod i Tad; a dw i'n rhoi in fowid in lle'r defed. Ma defed erill 'da fi 'fyd sy ddim in perthyn i'r ddadell 'ma. Rhaid i fi ddod â nhwy 'fyd a biddan nhwy'n grondo ar in llaish i, a biddan nhwy'n un ddadell gida un bugel. Ma'r Tad in in garu i, achos bo fi'n folon rhoi'n fowid fel bo fi'n galler i gâl e nôl shwrne 'to. Sneb in mynd â'n fowid wrtha i, ond dw i'n folon i roi ei achos bo fi moyn neud 'ny. Ma hawl 'da fi i roi e, a ma hawl 'da fi i gâl e nôl 'to. 'Na beth ma'n Dad wedi gweu 'tha i neud.” Shwrne 'to we'r Iddewon in an-gidweld 'da'i gily achos beth wedd Iesu wedi'i weud. We lot onyn nhwy in gweud, “Ma cithrel 'dag e a mae e off i ben. Pam ŷch chi'n grondo arno fe?” We lot arall in gweud, “Ddim geire rhiwun sy â cithrel yw rhein. Ody cithrel in galler agor lliged dinion dall?”