Wrth i Iesu fynd in i flân welodd e ddyn we'n ddall 'ddar 'ddo gâl i eni. Gwedo'i ddisgiblion wrtho, “Mishtir, pwy we wedi pechu, i dyn 'ma neu i dad a'i fam, fel bo fe'n câl i eni in ddall?” Atebo Iesu, “Ddim achos i bechod e na pechod i dad a'i fam; câs e i eni'n ddall fel bise Duw in câl i weld in gweitho. Rhaid i ni neud gwaith i'r un sy wedi'n hala hi tra bo 'i ole dydd. Ma'r nos in dod, pan na fydd neb in galler gweitho. Tra bo fi in i byd, fi yw gole'r byd.” Wedi 'ddo weud hyn, poerodd e ar i llawr a neud rhwbeth fel eli mas o glai; a roiodd e'r eli ar liged i dyn, a gweu 'tho, “Cer a glocha di unan in Pwll Siloam.” (Mae 'Siloam' in goligu, 'wedi hala'.) So fe âth e a golchi, a pan ddâth e nôl wedd e'n galler gweld.
Gwedo'r cwmdogion a'r rhei we wedi silwu arno fe pan wedd e'n begian, “I dyn we'n arfer ishte in begain yw hwn, ondife?” Gwedo rhei, “Ie”; gwedo rhei erill, “Nage, ond mae e'n debyg iddo.” Gwedo'r dyn i unan, “Fi yw e.” Gwedon nhwy wrtho fe, 'Shwt gâs di liged di u hagor?” Atebodd e, 'Nâth i dyn o'r enw Iesu eli-clai a'i roi e ar in liged i, a gweu 'th a i,' Cer i Siloam, a golcha.’ So es i a golchi, a ges in olwg.’ Gwedon nhwy wrtho, “Ble mae e?” Gwedodd e, “Senai'n gwbod.”