Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 9

9
Iesu'n gwella dyn gâs i eni'n ddall
1-12Wrth i Iesu fynd in i flân welodd e ddyn we'n ddall 'ddar 'ddo gâl i eni. Gwedo'i ddisgiblion wrtho, “Mishtir, pwy we wedi pechu, i dyn 'ma neu i dad a'i fam, fel bo fe'n câl i eni in ddall?” Atebo Iesu, “Ddim achos i bechod e na pechod i dad a'i fam; câs e i eni'n ddall fel bise Duw in câl i weld in gweitho. Rhaid i ni neud gwaith i'r un sy wedi'n hala hi tra bo 'i ole dydd. Ma'r nos in dod, pan na fydd neb in galler gweitho. Tra bo fi in i byd, fi yw gole'r byd.” Wedi 'ddo weud hyn, poerodd e ar i llawr a neud rhwbeth fel eli mas o glai; a roiodd e'r eli ar liged i dyn, a gweu 'tho, “Cer a glocha di unan in Pwll Siloam.” (Mae 'Siloam' in goligu, 'wedi hala'.) So fe âth e a golchi, a pan ddâth e nôl wedd e'n galler gweld.
Gwedo'r cwmdogion a'r rhei we wedi silwu arno fe pan wedd e'n begian, “I dyn we'n arfer ishte in begain yw hwn, ondife?” Gwedo rhei, “Ie”; gwedo rhei erill, “Nage, ond mae e'n debyg iddo.” Gwedo'r dyn i unan, “Fi yw e.” Gwedon nhwy wrtho fe, 'Shwt gâs di liged di u hagor?” Atebodd e, 'Nâth i dyn o'r enw Iesu eli-clai a'i roi e ar in liged i, a gweu 'th a i,' Cer i Siloam, a golcha.’ So es i a golchi, a ges in olwg.’ Gwedon nhwy wrtho, “Ble mae e?” Gwedodd e, “Senai'n gwbod.”
I Ffariseied ishe gwbod beth ddigwyddodd
13-34Ethon nhwy â'r dyn we'n arfer bod in ddall at i Ffariseied. Dy Sabbath wedd i pan nâth Iesu'r eli clai a agor lliged i dyn. Gofino'r Ffariseid i'r din shwner to shwt wedd e wedi câil i olwg. Gwedodd wrthyn nhwy, “Rhoiodd e eli clai ar in liged i a golches i, a dw i'n galler gweld.” Gwedo rhei o'r Ffasriseied, “Seno'r dyn nâth hyn in dwâd wrth Dduw, achos seno'n cadw'r dy Sabbath.” Gwedo rhei erill, “Shwt gall dyn sy'n bechadur neud i fath bethe?” Wen nhwy'n an gydweld in ofnadw obitu fe. Gwedon nhwy wrth i dyn dall shwrne 'to, “Beth wit ti'n gweud amdano fe 'te, achos wit ti'n gweud i fod e wedi agor di liged di?” Gwedodd e, “Mae e'n broffwd.” We'r Iddewon ddim in folon credu bo'r dyn wedi bod in ddall in i lle cinta a'i fod e wedi câl i olwg nes iddyn nhwy alw am weld i fam a'i dad a gofyn iddyn nhwy, “A'ch crwt chi yw hwn, ŷch chi'n gweud gâs i eni'n ddall? Shwt wedyn 'te bo fe'n gweld nawr?” Atebo'i fam a'i dad, “Ŷn ni'n gwbod taw'n crwt ni yw hwn, a'i fod e wedi'i eni'n ddall; ond shwt fuodd i i fod e'n câl i olwg senon ni'n gwbod, a senon ni'n gwbod pwy agorodd i liged e whaith. Gofinwch iddo fe, mae e'n ddigon hen i ateb dros i unana.” Gwedo'i fam a'i dad hyn achos bo ofon ir Iddewon arnyn nhwy; achos we'r Iddewon wedi diseido'n barod bise unrhiw un we'n folon gweud in agored bo Iesu in Feseia bisen nhwy'n câl u torri mas o'r sinagog. 'Na pam wedodd i fam a'i dad, “Mae e'n ddiogn hen i ateb dros i unan.”
So shwrne 'to man nwy'n galw ar i dyn we wedi bod in ddall a'n gweu 'tho-fe, “Gwêd i gwir. Ŷn ni'n gwbod bo'r dyn 'ma'n bechadur.” Atebodd e, “Senai'n gwbod os yw e'n bechdur neu beido; un peth dw i'n gwbod, wen i'n arfer bod in ddall a nawr dw i'n gweld.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Beth nâth e i ti? Shwt agorodd e di liged di?” Atebodd e, “Dw i wedi gweu 'thoch chi'n barod, ond wenoch chi'n grondo. Pam ŷch chi moyn cliwed 'to? Ŷch chi moyn i ddilyn e fel disgiblion?” Wedi'i regi a'i jawlo fe mynte nhwy, “Ti sy'n ddisgibl iddo fe, disgiblion Moses ŷn ni. Ŷn ni'n gwbod bo Duw wedi sharad 'da Moses; ond am hwn, sdim llefeleth 'da ni o ble mae e'n dod.” Atebo'r dyn nhwy, “Ma 'na in in sinnu i in fowr, bo chi ddim in gwbod o ble mae e'n dod, a wedyn weth mae e'n dod ben â agor in lliged i! Ŷn ni'n gwbod bo Duw ddim in grondo ar rei sy'n bechaduried, ond os ma rhiwun in parchu Duw a'n neud beth ma Duw moyn 'ddyn nhwy neud, bydd Duw in grondo arnyn nhwy. Sdim sôn wedi bod o'r blân am am riwun in agor lliged dyn gâs i eni'n ddall. Se'r dyn ma ddim in dod wrth Dduw, bise fe'n ffaelu neud dim byd.” Atebon nhwy e, “O'r dachreuad wit ti wedi bod miwn pechod reit lan hys di wddwg. So pwy wit ti i weu 'thon ni beth i neud?” A fe droion nhwy e mas.
Bydd i dall in gweld
35-41Cliwo Iesu u bo nhwy wedi'i droi e mas, a wedi 'ddo ffindo fe, gwedodd e, “Wit ti'n credu in Crwt i Dyn?” Gwedodd e, “Pwy yw e, Mishtir, fel galla i gredu indo fe?” Gwedo Iesu, “Wyt ti wedi'i wele, a fe sy'n sharad 'da ti nawr.” Gwedodd e, “Mishtir, dw i'n credu”; a 'co fe'n towlu i hunan in fflat ar i llawr o flân Iesu. Gwedo Iesu, “Des i miwn i'r byd er mwyn barn, fel bo'r rhei sy ddim in gweld in gweld, a fel bo'r rhei sy in gweld in mynd in ddall.”
Cliwo'r Ffariseied we 'dag e hyn a gweud, “Odyn ni'n ddall, 'te?” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Os bisech chi'n ddall fisech chi ddim in euog. Fel mae i, ŷch chi'n gweud, 'Ŷn ni'n galler gweld'; so ŷch chi'n aros 'run mor euog ag o'r blân.”

Dewis Presennol:

Ioan 9: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda