Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Ioan Marc 5

Cygynted ag y glàniodd efe, cyfarfu ag ef ddyn yn dyfod o’r gwyddfeddi, âg ysbryd aflan ynddo, yr hwn oedd â’i drigfa yn y tomodion; a ni allai neb, hyd yn nod â chadwynau, ei rwymo ef. Oblegid mynych y rhwymesid ef â llyffetheiriau a chadwynau, ac y darniasai y cadwynau, a thòrasai y llyffetheiriau, fel na allai neb ei ddofi ef. Ac yr oedd efe yn barâus, ddydd a nos, yn y mynyddoedd, ac yn y tomodion, yn ubain, ac yn tòri ei hunan â chelltèni. Ond pan welodd efe Iesu o hirbell, efe á redodd, a chàn ymgrymu o’i flaen ef, á waeddodd allan, Beth sydd à wnelych â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dyngedu drwy Dduw na phoenych fi. (Canys dywedasai Iesu wrtho, Dyred allan o’r dyn, tydi ysbryd aflan.) Iesu á ofynodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau á atebodd, Fy enw yw Lleng, oblegid llawer ydym. Ac efe á ddeisyfodd arno yn daer beidio a’u gỳru hwynt allan o’r wlad. Ac yr oedd yno genfäint fawr o foch yn pori àr y mynydd. A’r ellyllon á ddeisyfasant arno, gàn ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel yr elom i fewn iddynt. Iesu yn ebrwydd á ganiatâodd iddynt. Yna yr ysbrydion aflan wedi myned allan, á aethant i’r moch; a’r genfaint, yn nghylch dwy fil o rifedi, á ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac á fygwyd. A’r mychiaid á ffoisant, ac á fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y pentrefi. A’r bobl á ymdỳrasant allan i weled yr hyn à ddygwyddasai. Pan ddaethant at Iesu, a gweled yr hwn y buasai y lleng ynddo, yn eistedd, a gwedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, hwy á ofnasant. A gwedi i’r sawl à welsent y cwbl, fynegi iddynt yr hyn á ddygwyddasai i’r cythreulig, ac i’r moch, hwy á ddeisyfasant arno ymadael o’u tiriogaethau. A fel yr oedd efe yn llongi, y dyn y buasai y cythraul ynddo, á ofynodd gènad i fyned gydag ef. Eithr ni adawodd Iesu iddo, ond á ddywedodd, Dos adref at dy berthynasau, a dywed wrthynt pa bethau mawrion á wnaeth yr Arglwydd, mewn tosturi, erot. Yn ganlynol efe á ymadawodd, gàn gyhoeddi yn Necapolis, pa bethau mawrion á wnaethai Iesu iddo. A phawb á ryfeddasant

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan Marc 5