A gwraig, yr hon á fuasai ddeg a dwy flynedd yn cael ei blino gàn ddyferlif gwaed, yr hon á ddyoddefasai lawer oddwrth amrai feddygon, ac á dreuliasai gymaint ag oedd àr ei helw heb gael dim lles, ond yn hytrach myned waethwaeth – wedi clywed am Iesu, á ddaeth yn y dorf o’r tu ol, ac á gyfhyrddodd â’i fantell ef; canys hi á ddywedasai, Os cyfhyrddaf ond â’i ddillad ef, iach fyddaf. Yn ebrwydd ffynonell ei hafiechyd á sychodd, a hi á deimlai yn ei chorff ddarfod ei gwaredu oddwrth y ffrewyll hòno. Iesu yn y fàn, yn ymwybodol o’r rhinwedd à aethai allan o hono, gwedi troi at y dorf, á ddywedodd, Pwy á gyfhyrddodd â’m dillad? Ei ddysgyblion á atebasant, Ti á weli fel y mae y dyrfa yn dy wasgu; ac á ddywedi di, Pwy á gyfhyrddodd â mi? Eithr efe á edrychodd o’i amgylch i weled yr hon à wnaethai hyn. Yna y wraig, yn gwybod y cyfnewidiad à weithiesid arni, á ddaeth dàn grynu o ofn, á syrthiodd gèr ei fron ef, ac á gyfaddefodd yr holl wirionedd. Yntau á ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd á’th iachâodd; dos mewn heddwch, wedi dy ryddâu oddwrth y ffrewyll hon.
Darllen Ioan Marc 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan Marc 5:25-34
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos