Cyn iddo orphen llefaru, daeth cènadau o dŷ llywydd y gynnullfa, y rhai á ddywedasant, Y mae dy ferch wedi marw, paham yr aflonyddit yr athraw mwyach? Iesu yn clywed mynegi y gènadwri hon, á ddywedodd yn y fàn wrth y llywydd, Nac ofna; crêd yn unig. A ni adawai efe i neb ei ddylyn ef ond Pedr ac Iägo, ac Iöan brawd Iägo. Gwedi cyrhaedd tŷ y llywydd, a gweled y cynhwrf, a’r bobl yn wylo ac yn ochain yn annghymedrol, efe á ddywedodd wrthynt, fel yr oedd yn myned i fewn, Paham yr ydych yn wylo, ac yn gwneuthur ffwdan? ni bu farw y plentyn, ond cysgu y mae. A hwy á’i gwatwarasant ef. Ond wedi eu bwrw hwynt oll allan, efe á gymerodd gydag ef dad a mam y plentyn, a’r rhai à ddaethent gydag ef; ac efe á aeth i fewn i’r ystafell lle yr oedd hi; a gwedi ymaflyd yn ei llaw, á ddywedodd wrthi, Talitha cwmi, (yr hyn á arwydda, Ferch ieuanc, cyfod,) yr wyf yn gorchymyn i ti. Yn y fàn yr eneth á gyfododd ac á rodiodd, canys yr oedd hi yn ddeg a dwy flwydd oed; a hwy á sỳnasant yn ddirfawr. Eithr efe á orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn, ac á berodd roddi iddi rywbeth iddei fwyta.
Darllen Ioan Marc 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan Marc 5:35-43
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos