Yr heuwr yw yr hwn sydd yn taenu y gair. Ymyl y ffordd, yr hwn y syrthiodd peth o’r had arno, á ddynoda y rhai, gwedi iddynt glywed y gair, y mae Satan yn dyfod ac yn cymeryd ymaith yr hyn à heuwyd yn eu calonau. Y tir creigiog á ddynoda y rhai, gwedi iddynt glywed y gair, á’i derbyniant àr y cyntaf gyda hyfrydwch; eto heb ei fod wedi gwreiddio yn eu meddyliau, nid ydynt yn ei ddal ond dros ychydig; oblegid pan ddel blinder neu erlidigaeth o achos y gair, yn y fàn hwy á adgwympant. Y tir dreiniog á ddynoda y gwrandaẅwyr hyny, yn y rhai y mae gofalon bydol, a chyfoeth hudoliaethus, a chwant gormodol am bethau ereill, yn tagu y gair, ac yn ei wneuthur yn anffrwythlawn. Y tir da àr yr hwn y dyg rhai grawn ddeg àr ugain, rhai driugain, a rhai gant, á ddynoda y rhai à glywant y gair, ac á’i daliant, ac á ddygant ei ffrwyth. Efe á ddywedodd yn mhellach, A ddygir llusern iddei osod o dàn lestr, neu o dàn wely, a nid iddei osod àr ddaliadur? Canys nid oes dïm dirgel, nad yw i gael ei amlygu; na dim wedi ei gelu, nad yw i gael ei ddadguddio. Od oes gàn neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.