Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 4

4
1-2Drachefn, yr oedd efe yn athrawiaethu wrth làn y môr, pan ymgasglodd y fath dyrfa o’i amgylch, nes y gorfu iddo fyned i long, ac eistedd yno, tra yr arosai yr holl bobl àr y làn. Yna y dysgodd efe iddynt lawer o bethau drwy ddamegion.
3-9Wrth ddysgu, efe á ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, wele yr heuwr á aeth allan i hau. A fel yr oedd efe yn hau, peth o’r had á syrthiodd àr ymyl y ffordd, a’r adar á ddaethant, ac á’i pigasant i fyny. Peth á syrthiodd àr dir creigiog, lle ni chafodd ond ychydig bridd. Hwn á eginodd yn gynt, am nad oedd yno ddyfnder daiar. Ond wedi i’r haul guro arno, efe á ddeifiwyd, ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe á wywodd. Peth á syrthiodd yn mysg drain, a’r drain á dyfasant, ac á’i tagasant ef, fel na ddygodd ddim ffrwyth. Peth á syrthiodd i dir da, ac á dyfodd, ac á ddaeth mòr ffrwythlawn, nes y dyg rhai grawn ddeg àr ugain, rhai driugain, a rhai gant. Efe á chwanegodd, Pwybynag sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
10-13Pan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda ’r deuarddeg, á ofynasant iddo ysdyr y ddameg. Yntau á ddywedodd, wrthynt, Eich braint chwi yw gwybod cyfrinion Teyrnasiad Duw, ond i’r rhai oddallan pob beth á lènir mewn damegion, fel na chanfyddont yr hyn yr edrychant arno, nac y deallont yr hyn á glywant; rhag iddynt ddychwelyd, a chael maddeuant o’u pechodau. Efe á ddywedodd hefyd wrthynt, Onid ydych yn dëall y ddameg hon? Pa fodd ynte y deallwch yr holl ddamegion?
14-23Yr heuwr yw yr hwn sydd yn taenu y gair. Ymyl y ffordd, yr hwn y syrthiodd peth o’r had arno, á ddynoda y rhai, gwedi iddynt glywed y gair, y mae Satan yn dyfod ac yn cymeryd ymaith yr hyn à heuwyd yn eu calonau. Y tir creigiog á ddynoda y rhai, gwedi iddynt glywed y gair, á’i derbyniant àr y cyntaf gyda hyfrydwch; eto heb ei fod wedi gwreiddio yn eu meddyliau, nid ydynt yn ei ddal ond dros ychydig; oblegid pan ddel blinder neu erlidigaeth o achos y gair, yn y fàn hwy á adgwympant. Y tir dreiniog á ddynoda y gwrandaẅwyr hyny, yn y rhai y mae gofalon bydol, a chyfoeth hudoliaethus, a chwant gormodol am bethau ereill, yn tagu y gair, ac yn ei wneuthur yn anffrwythlawn. Y tir da àr yr hwn y dyg rhai grawn ddeg àr ugain, rhai driugain, a rhai gant, á ddynoda y rhai à glywant y gair, ac á’i daliant, ac á ddygant ei ffrwyth. Efe á ddywedodd yn mhellach, A ddygir llusern iddei osod o dàn lestr, neu o dàn wely, a nid iddei osod àr ddaliadur? Canys nid oes dïm dirgel, nad yw i gael ei amlygu; na dim wedi ei gelu, nad yw i gael ei ddadguddio. Od oes gàn neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.
24-25Efe á ddywedodd hefyd, Ysdyriwch beth á wrandawoch; â’r mesur â’r hwn y rhoddwch, y derbyniwch. Canys i’r hwn sy ganddo, y rhoddir chwaneg; ond oddar yr hwn nid oes ganddo, y cymerir hyd yn nod yr hyn sy ganddo.
26-29Efe á ddywedodd drachefn, Y mae teyrnas Duw fel had, yr hwn á heuodd dyn yn ei faes. Tra y cysgai y nos, ac y deffroai y dydd, yr had á eginodd heb iddo sylwi arno. Canys y mae y ddaiar yn dwyn o honi ei hun, yn gyntaf yr eginyn, yna y dwysen; wedi hyny yr ŷd llawn. Ond cygynted ag yr addfedodd yr ŷd, efe á roddes y cryman ynddo, am ei bod yn amser ei fedi.
30-32Efe á ddywedodd hefyd, I ba beth y cymharwn deyrnas Duw, neu drwy ba gyffelybiaeth y gosodwn hi allan? Tebyg ydyw i ronyn o had cethw, yr hwn, pan heuir ef yn y ddaiar, yw y lleiaf o’r holl hadau sydd yno. Ond wedi yr heuir ef, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy nag un llysieuyn, ac yn dwyn allan gangenau cymaint, nes y gall adar yr awyr ymddiddosi o dàn eu cysgodion.
33-34A thrwy lawer o’r fath gyffelybiaethau yr addysgai efe y bobl, fel yr oedd yn eu gweled yn cael eu tueddu i wrandaw: a heb gyffelybiaeth ni ddywedai efe ddim wrthynt; ond efe á eglurai y cwbl iddei ddysgyblion o’r neilldu.
35-41Y dydd hwnw, yn yr hwyr, efe á ddywedodd wrthynt, Awn drosodd i’r ochr draw. A hwy, gàn adael y bobl, ond ac efe gyda hwynt yn y llong, á hwyliasant gyda llongigion ereill. Yna y cododd tymhestl fawr o wynt, yr hon á daflodd y tònau i’r llong, yr hon oedd erbyn hyn yn llawn. Ac yr oedd Iesu yn yr #4:35 Pen ol llong; stern.ysdarn, yn cysgu àr obènydd, a hwy á’i deffroisant ef, gàn ddywedyd, Rabbi, á oes arnat ddim gofal rhag darfod am danom ni? Ac efe á gyfododd, ac á geryddodd y gwynt, gàn ddywedyd wrth y môr, Gosteg! dystawa! Yn y fàn peidiodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych mòr ofnus? Pa fodd nad oes gènych ffydd? A hwy á ddychrynasant yn ddirfawr, ac á ddywedasant y naill wrth y llall, Pwy yw hwn, y mae hyd yn nod y gwynt a’r môr yn ufyddâu iddo?

Dewis Presennol:

Ioan Marc 4: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda