Yn hyn y mae Gweinyddiaeth y Nef yn debyg i frenin, yr hwn á benderfynai wneuthur cyfrif â’i weision. Wedi dechreu cyfrif, dygwyd un yr hwn oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau. Ond gàn na feddai y gwas hwnw fodd i dalu; ei feistr, i gael tâl, á orchymynodd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a’r cwbl à feddai. Yna y gwas, wedi syrthio i lawr, á ymgrymodd o flaen ei feistr, ac á lefodd, Bydd ymarôus wrthyf, fy arglwydd, a mi â dalaf i ti y cydawl. A’i feistr á dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd ymaith, gàn faddau y ddyled. Ond y gwas hwn, wrth fyned allan, á gyfarfu ág un o’i gydweision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gànn ceiniog, ac a’i llindagodd ef, gàn ddywedyd, Tal i mi yr hyn sy ddyledus arnat. Ei gydwas, gàn syrthio i lawr, á ymbiliodd ag ef, gàn ddywedyd, Bydd ymarôus wrthyf, a mi á dalaf i ti. A ni wnai efe, ond yn ddiannod á berodd ei garcharu ef, hyd oni thalai y ddyled. Pan welodd ei gydweision hyn, bu ddrwg dros ben ganddynt, a hwy á aethant, ac á fynegasant iddeu meistr yr hyn oll à ddygwyddasai. Yna ei feistr, wedi peri ei alw ef, á ddywedodd wrtho, Tydi was drygionus: mi á faddeuais i ti yr holl ddyled hòno am i ti ymbil â mi. Oni ddylesit tithau dosturio yr un modd wrth dy gydwas, ag y tosturiais innau wrthyt ti? Felly ei feistr, wedi digio, á’i traddododd ef i’r geolwyr, i aros yn eu dwylaw hyd oni thalai y ddyled. Felly y gwna fy Nhad nefol i bob un o honoch chwithau, na faddeuo o’i galon iddei frawd.