Y pryd hwnw y dysgyblion á ddaethant at Iesu gàn ofyn, Pwy fydd y mwyaf yn Nheyrnasiad y Nefoedd? Iesu á alwodd ato blentyn, ac á’i gosododd ef yn eu canol hwynt, ac á ddywedodd; Yn wir, meddaf i chwi, oddeithr eich cyfnewid, a’ch gwneuthur fel plant, nid ewch chwi byth i fewn i deyrnas y nefoedd. Pwybynag, gàn hyny, á ddelo yn ostyngedig fel y plentyn hwn, á fydd fwyaf yn Ngheyrnasiad y Nefoedd. Na, pwybynag á dderbynio un cyfryw blentyn, yn fy enw i, á’m derbyn i: ond pwybynag á faglo un o’r rhai bychain hyn, á gredant ynof fi, gwell fyddai iddo pe crogid maen uchaf melin o gylch ei wddf, a’i suddo yn yr eigion.
Darllen Matthew Lefi 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 18:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos