Gwae y byd oblegid maglau! Maglau yn wir raid fod; èr hyny, gwae y maglwr! Am hyny, os dy law neu dy droed á’th fagla, tòr o ymaith, a thafl oddwrthyt: gwell i ti fyned i fewn i’r bywyd yn gloff neu yn anafus, nag â chenyt ddwy law neu ddau droed dy daflu i’r tân tragwyddol. Ac os dy lygad á’th fagla, tỳn o allan, a thafl oddwrthyt: gwell i ti fyned i fewn i’r bywyd yn unllygeidiog, nag â dau lygad genyt, dy daflu i dân uffern. Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn: canys yr wyf yn sicrâu i chwi, bod eu hangylion hwy, yn y nefoedd, yn wastad yn gweled wyneb fy Nhad nefol; a daeth Mab y Dyn i gadw yr hyn à gollasid. Beth dybygwch chwi? Pe byddai gàn ddyn gant o ddefaid, a chyfeiliorni o un o honynt, oni âd efe y nawdeg a naw àr y mynyddoedd, a myned i chwilio am y gyfeiliornedig? Ac os dygwydd iddo ei chael hi, y mae yn cael llawenydd mwy oddwrth hòno, nag oddwrth y nawdeg a naw y rhai nad aethant àr gyfeiliorn. Felly nid yw ewyllys eich Tad yn y nefoedd, gyfrgolli yr un o’r rhai bychain hyn.
Darllen Matthew Lefi 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 18:7-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos