Yna rhyw Phariseaid á ddaethant ato, a chán ei brofi, á ofynasant, A all dyn yn gyfreithlawn, am bob ffugesgus, ysgaru ei wraig? Yntau á atebodd, Oni ddarllenasoch, ddarfod, yn y dechreuad, pan wnaeth y Crëawdwr ddyn, iddo lunio gwryw a benyw, a dywedyd, “O herwydd hyn y gedy dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy fyddant ill dau yn un cnawd.” Oblegid hyny, nid ydynt mwy yn ddau ond yn un cnawd. Yr hyn, gàn hyny, á gyssylltodd Duw, na wahaned dyn. Hwythau á atebasant, Paham ynte y gorchymynodd Moses roddi llythyr ysgar iddi, a’i gollwng ymaith? Yntau á atebodd, Moses, yn wir, oblegid eich tuedd anhydrin, á oddefodd i chwi ysgaru eich gwragedd; ond, o’r dechreuad, nid felly yr oedd. Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, bod pwybynag á ysgaro ei wraig, ond o achos puteindra, ac á briodo un arall, yn gwneuthur godineb; a phwybynag á briodo yr ysgaredig, y mae efe yn godinebu. Ei ddysgyblion á ddywedasant wrtho, Os dyna yw sefyllfa y gwr, gwell yw byw heb briodi. Yntau á atebodd, Hwynthwy yn unig á allant fyw fel hyn, i’r rhai y rhoddwyd y gallu. Oblegid y mae rhai yn ddysbeiddiaid o’u genedigaeth; ereill á wnaethwyd gàn ddynion yn ddysbeiddiaid; ac ereill, èr mwyn teyrnas y nefoedd, á wnaethant eu hunain yn ddysbeiddiaid. Y sawl à allo wneuthur hyn, gwnaed.