Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 17

17
1-15A gwedi cymeryd eu taith drwy Amphipolis ac Apòlonia, hwy á ddaethant i Thessalonica; lle yr oedd cynnullfa i’r Iuddewon. Ac yn ol arfer Paul, efe á aeth i fewn yn eu plith, a thros dri Seibiaeth á ymadroddodd wrthynt allan o’r ysgrythyrau; gàn eu hegluro, a dangos yn amlwg, mai rhaid oedd i’r Messia ddyoddef, a chyfodi oddwrth y meirw; a mai hwn yw y Messia, sef Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei gyhoeddi i chwi. A rhai o honynt á gredasant, ac á lynasant wrth Baul a Silas; heblaw nifer mawr o’r Groegwyr crefyddol, ac o’r gwragedd pènaf nid ychydig. Eithr yr Iuddewon annghrediniol, wedi eu llenwi o eiddigedd, á gasglasant yn nghyd ryw ddynion drwg o grwydriaid, a gwedi gwneuthur gwerindorf, á godasant derfysg yn y ddinas; a gwedi ymosod àr dŷ Iason, hwy á geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. Ond pan na chawsant hwynt, hwy á lusgasant Iason, a rhai o’r brodyr, at ynadon y ddinas, gàn lefain, Y rhai hyn, à sy gwedi troi y byd a’i wyneb yn isaf, á ddaethant yma hefyd: ac Iason á’u derbyniodd hwynt yn ddirgel. Ac y mae y rhai hyn oll yn gweithredu yn erbyn deddfedigaethau Caisar, gàn ddywedyd bod brenin arall, sef Iesu. A hwy á gyffroisant y dyrfa, ac ynadon y ddinas hefyd, pan glywsant y pethau hyn. A gwedi iddynt gael sicrwydd gàn Iason, a’r lleill, hwy á’u gollyngasant hwynt ymaith. Ond y brodyr yn ebrwydd o hyd nos á ddanfonasant Baul a Silas i Ferea: a phan ddaethant yno, hwy á aethant i gynnullfa yr Iuddewon. Y rhai hyn oeddynt fwy boneddigfryd na’r rhai yn Thessalonica: canys hwy á dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gàn chwilio beunydd yr ysgrythyrau, á oedd y pethau hyn felly. Llawer o honynt, gàn hyny, á gredasant; o’r Groegesau urddasolradd, ac o’r gwŷr nid ychydig. Ond cygynted ag y gwybu rhai o Iuddewon Thessalonica bod gair Duw yn cael ei gyhoeddi gàn Baul yn Merea, hwy á ddaethant yno hefyd, gàn gynhyrfu y werin. Ac yna, yn ebrwydd, y brodyr á ddanfonasant Baul ymaith, megys pe buasai i fyned àr hyd y môr. Ond Silas a Thimothëus, á arosasant yno. A chyfarwyddwyr Paul á’i dygasant ef hyd Athen; a gwedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimothëus, àr iddynt ddyfod ato cygynted ag y byddai alledig, hwy á gychwynasant.
DOSBARTH XIII.
Dygiad yr Efengyl i Athen, Corinth, ac Ephesus.
16-21A thra yr ydoedd Paul yn aros am danynt yn Athen, ei ysbryd o’i fewn á ddirgynhyrfwyd, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunaddoliaeth. Am hyny efe á ymresymai â’r Iuddewon a’r #17:16 Proselytiaidtröedigion, yn y gynnullfa; ac yn y #17:16 Forumddadleufa, beunydd, â’r rhai à gyfarfyddent ag ef. Yna rhai o’r athronyddion Epicuwrëaidd a Stoicaidd, á ymddadleuasant ag ef. Ereill á ddywedasant, Beth á fỳnai y baldorddwr hwn ei ddywedyd? Ac ereill, Tebyg yw ei fod ef yn gyhoeddwr duwiau dyeithr: am ei fod yn mynegi iddynt y Newydd da, am Iesu a’r adgyfodiad. A hwy á’i daliasant ef, ac á’i dygasant i’r Areopagus, gàn ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon, á draethir genyt? Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dyeithr i’n clustiau ni: am hyny ni á fỳnem wybod beth á allai y pethau hyn fod? Canys yr holl Atheniaid, a’r dyeithriaid à ymdeithient yn eu plith, nid oeddynt yn cymeryd eu hamdden i ddim arall ond i ddywedyd neu glywed rhyw newydd.
22-34Paul, gàn hyny, á safodd yn nghanol yr Areopagus, ac á ddywedodd, Atheniaid, mi á welaf eich bod chwi yn mhob modd yn dra chrefyddgar. Canys wrth ddyfod heibio a gweled gwrthrychau eich addoliad, mi á gefais allor a’r graifft hon arni, I’r Duw Anadwaenedig: yr Hwn, gàn hyny, yr ydych chwi, heb ei adnabod, yn ei addoli, hwnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. Y Duw à wnaeth y byd, a phob peth à sydd ynddo, gán ei fod yn Arglwydd nef a daiar, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylaw: a nid â dwylaw dynol y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisieu dim; gàn mai efe ei hun sydd yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. Ac efe á wnaeth o un gwaed yr holl hiliogaeth o ddynion, i breswylio àr holl wyneb y ddaiar; wedi nodi allan yr amseroedd rhagdrefnedig, a therfynau eu preswylfëydd hwynt; fel y ceisient yr Arglwydd, os gallant ymbalfalu am dano ef, a’i gael; èr nad yw efe nebpell oddwrth bob un o honom; oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; fel y dywedodd rhai o’ch beirdd chwi eich hunain, – “Canys ei hiliogaeth ef ydym ni.” Gàn ein bod ni, gàn hyny, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybied bod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, wedi ei weithio drwy gelfyddyd a dyfais dyn. Canys èr bod Duw gwedi edrych heibio i amseroedd yr anwybodaeth hwn, y mae efe yr awrhon yn gwneuthur cyhoeddiad i bob dyn yn mhob man, i ddiwygio; o herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder drwy y Gwr à arbènododd efe; o’r hyn y rhoddes efe sicrwydd i bawb, drwy ei gyfodi ef oddwrth y meirw. A phan glywsant son am adgyfodiad y meirw, cellwair á wnaeth rhai, ac ereill á ddywedasant, Ni á’th wrandaẅwn darchefn àr y mater hwn. A felly yr aeth Paul allan o’u canol hwynt. Er hyny, rhai gwŷr á lynasant wrtho, ac á gredasant: yn mhlith y rhai yr oedd Dionysius, yr Areopagiad, a gwraig, a’i henw Damaris; ac ereill gyda hwynt.

Právě zvoleno:

Gweithredoedd 17: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas