Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 18

18
1-11Ar ol y pethau hyn, Paul á ymadawodd o Athen, ac á ddaeth i Gorinth; a gwedi iddo gael rhyw Iuddew, a’i enw Acwila, brodawr o Bontus, wedi dyfod yn ddiweddar o’r Eidal, gyda Phriscila ei wraig, (oblegid Clawd Caisar á orchymynasai i’r holl Iuddewon ymadael o Rufain,) efe á aeth atynt. A chàn ei fod o’r un gelfyddyd, efe á arosodd gyda hwynt, ac á weithiodd; canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd. Eithr efe á ymresymai yn y gynnullfa bob Seibiaeth, ac á ddarbwyllai yr Iuddewon a’r Groegiaid. A chygynted ag y daeth Silas a Thimothëus o Facedonia, Paul á ddirgymhellwyd gàn yr Ysbryd, ac á dystiolaethodd i’r Iuddewon, mai Iesu oedd y Messia. Hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe á ysgydwodd ei ddillad, ac á ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi àr eich pènau eich hunain! Glan ydwyf fi. O hyn allan mi á âf at y Cenedloedd. A gwedi myned allan oddyno, efe á aeth i dŷ un a’i enw Iustus, addolwr Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyfhwrdd â’r gynnullfa. A Chrispus, pènaeth y gynnullfa, á gredodd yn yr Arglwydd, efe a’i holl dŷ; a llawer o’r Corinthiaid, drwy glywed, á gredasant, ac á drochwyd. Ond yr Arglwydd á ddywedodd wrth Baul, mewn gweledigaeth liw nos, Nac ofna, eithr llefara, a na fydd ddystaw; canys yr wyf fi gyda thi, a ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti; oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon. Ac efe á arosodd yno flwyddyn a chwech mis, gàn ddysgu gair Duw yn eu plith hwynt.
12-17Ond pan oedd Galio yn raglaw yn Achaia, yr Iuddewon yn unfryd á wnaethant ruthr àr Baul, ac á’i dygasant ef o flaen y frawdle, gàn ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y gyfraith. A phan oedd Paul àr fedr agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iuddewon, Pe buasai yn weithred o annghyfiawnder, neu benryddid drygionus, O Iuddewon! buasai yn resymol i mi gyd‐ddwyn â chwi. Ond os dadl yw yn nghylch geiriau, ac enwau, a’r gyfraith à sydd yn eich plith chwi, edrychwch at hyny eich hunain; canys ni fyddaf fi yn farnwr am y pethau hyn. Ac efe á’u gỳrodd hwynt ymaith oddwrth y frawdle. A’r holl Roegwyr á ddaliasant Sosthenes, penaeth y gynnullfa, ac á’i curasant o flaen y frawdle; ond nid oedd Galio yn gofalu dim am y peth.
18-23A Phaul eto á arosodd yno gryn amser, ac yna gwedi iddo ganu yn iach i’r brodyr, efe á fordwyodd oddyno i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi eillio ei ben yn Nghenchrea, canys yr oedd arno adduned. Ac efe á ddaeth i Ephesus, ac á’u gadawodd hwynt yno; ond efe ei hun á aeth i fewn i’r gynnullfa, ac á ymresymodd â’r Iuddewon. Ac èr iddynt ddymuno arno aros gyda hwynt yn hwy, ni chydsyniodd efe; eithr á ganodd yn iach iddynt, gàn ddywedyd, Y mae yn raid i mi, bethbynag á fo, gadw yr wyl sydd yn dyfod yn Nghaersalem; ond, os mỳn Duw, mi á ddeuaf yn fy ol atoch chwi drachefn. Ac efe á hwyliodd o Ephesus. A gwedi glanio o hono yn Nghaisarea, efe á aeth i fyny; a gwedi iddo dreulio talm o amser yno, efe á ymadawodd, gàn dramwy drwy wlad Galatia, a Phrygia mewn trefn, a chadarnâu yr holl ddysgyblion.
24-28Eithr rhyw Iuddew, a’i enw Apòlos, brodawr o Alecsandria, gwr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythyrau; á ddaeth i Ephesus. Hwn oedd wedi ei addysgu yn ffordd yr Arglwydd, ac efe yn wresog yn yr Ysbryd, á lefarodd ac á athrawiaethodd bethau yr Arglwydd gyda manylwch mawr, heb fod yn adnabyddus ond â throchiad Ioan yn unig. Ac efe á ddechreuodd lefaru yn hy yn y gynnullfa. Ac Acwila a Phriscila, gwedi ei glywed ef, á’i cymerasant o’r neilldu, ac á eglurasant iddo ffordd Duw yn berffeithiach. A phan oedd efe yn amcanu myned i Achaia, y brodyr á ysgrifenasant at y dysgyblion, gàn eu hannog iddei dderbyn ef. A gwedi ei ddyfod yno, drwy ei ddawn efe á gynnorthwyodd lawer àr y rhai à gredasent. Oblegid efe á ddadleuai yn egnïol â’r Iuddewon yn gyhoeddus, gàn ddangos drwy yr ysgrythyrau, mai Iesu yw y Messia.

Právě zvoleno:

Gweithredoedd 18: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas