Marc 7
7
Am buredigaeth allanol a thufewnol, a thraddodiadau
[Mat 15:1–20]
1Ac ymgasgla ato y Phariseaid, a rhai o'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant o Jerusalem; 2ac a welsant fod rhai o'i Ddysgyblion ef yn bwyta bara#7:2 Llyth.: y torthau. â dwylaw halogedig#7:2 Llyth.: cyffredin., hyny yw, heb eu golchi#7:2 Hwy a argyhoeddasant, neu yn hytrach, hwy a feiasant D. Gad א A B L Brnd.. 3Canys y Phariseaid a'r holl Iuddewon, oni fydd iddynt olchi eu dwylaw yn egniol#7:3 Llyth.: gyda dwrn. Y mae yr ymadrodd yn dywyll a dyrys. Y mae wedi cael ei esbonio mewn llawer modd, megys, (1) yn llythyrenol, fel y modd y golchai yr Iuddewon eu dwylaw; (2) hyd yr arddwrn; (3) hyd y benelin; (4) gyda dyrnaid o ddwfr: (5) yn fynych (Vulgate, cyf. Cymraeg a Saesneg Awdurdodedig). Dyma ddarlleniad א; (6) yn ofalus, yn ddiwyd, yn egniol (Peshito, Calfin, Al. Diw. &c., &c.)., ni fwytânt, gan ddal yn dyn Draddodiad yr Henuriaid. 4A phan ddelont o'r farchnadle#7:4 Neu, ac ar ol marchnad., oni fydd iddynt ymdrochi#7:4 daenellu eu hunain א B. Ymdrochi A D Δ E L Brnd., ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a dderbyniasant i'w cadw, bedyddiadau cwpanau, ac ystenau#7:4 Xestês (o'r Lladin Sextarius) a gynnwysai tua pheint o wlybwr., a llestri copr#7:4 Neu, llestri efydd neu bres.#7:4 a gwelyau (yn hytrach glythau) A D La. Tr. Al. Gad. א B Ti. WH. Diw.. 5A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion a ofynasant iddo, Paham nad yw dy Ddysgyblion di yn rhodio yn ol Traddodiad yr Henuriaid, ond â dwylaw halogedig#7:5 halogedig (neu cyffredin) א B D Brnd. heb olchi A. y maent yn bwyta bara? 6Ond efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaiah am danoch, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig: —
Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu a'r gwefusau,
Ond eu calon sydd#7:6 Llyth.: sydd yn dal yn mhell. bell oddiwrthyf;
7Eithr yn ofer y maent yn fy addoli#7:7 Llyth.: yn fy mharchu.,
Gan ddysgu fel cu dysgeidiaeth, orchymynion dynion.#Es 29:13
8Gan ollwng ymaith orchymyn Duw, yr ydych yn dal gafael ar Draddodiad dynion#7:8 Bedyddiadau ystenau a chwpanau, a llawer eraill o'r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur A [Al.] [Tr.] [La.] Gad. א B L Δ Ti. Diw.. 9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych y gwnewch i ffwrdd#7:9 Neu, y gwnewch yn ddieffaith. â gorchymyn Duw, fel y dyogeloch#7:9 gwylioch dros, cadwoch. eich Traddodiad eich hunain. 10Canys Moses a ddywedodd,
Anrhydedda dy dâd a'th fam#Ex 20:12,
Ac,
Yr hwn a ddifenwo#7:10 Neu, a lefaro ddrwg, a felldithio. dâd neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth#7:10 Llyth.: bydded iddo orphen trwy farwolaeth, hyny yw, bydded iddo orphen ei fywyd, trwy gael ei gospi â'r farwolaeth gysylltiedig â'r trosedd: yn ol eraill, bydded iddo yn sicr gael marw.#Ex 21:17.
11Ond meddwch chwi, Os dywed dyn wrth ei dâd neu ei fam, Corban#7:11 Corban, rhodd offrymedig, neu i'w hoffryma at wasanaeth Duw. Gwel ar Mat 15:5 (hyny yw, Rhodd sanctaidd) ydyw pa beth bynag o'r eiddof fi a fyddai o les i ti, 12nid#7:12 Ac A [Al.] Gad. א B D Δ Brnd. Felly dianghenrhaid difai fydd, neu unrhyw fath ymadrodd ar ddiwedd adn 11. ydych mwyach yn caniatau iddo wneuthur dim dros dâd neu fam; 13gan ddirymu#7:13 Neu, ddileu, ddyddimu (Gal 3:17). Gair Duw drwy eich Traddodiad yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur. 14Ac efe a alwodd ato y dyrfa#7:14 Y dyrfa drachefn B D L Δ Al. Tr. Ti. La. Yr holl dyrfa A. drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch chwi oll arnaf, a deallwch: 15nid oes dim o'r tu allan i'r dyn, yr hwn pan yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan o'r dyn yw y pethau sydd yn halogi y dyn#7:15 Od oes gan neb glustiau, gan wrando, gwrandawed A D [Al.] [Tr.] La. Gad. א B L Δ Ti. WH. Diw.. 16-17A phan ddaeth efe gartref#7:16–17 Neu, i dy. oddiwrth y dyrfa, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo y#7:16–17 Y ddammeg (h. y. ystyr y dammeg) B D L Δ. Ynghylch y ddammeg A. ddammeg. 18Ac efe a ddywed wrthynt, Felly a ydych chwithau hefyd yn ddiddeall? Oni chanfyddwch, am bob peth oddiallan a êl i mewn i'r dyn, na all ei halogi ef; 19oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol, ac yn myned allan i'r geudy? Hyn a ddywedodd efe#7:19 Ac efe yn puro, neu yn ystyried yn lân (sef Crist) א A B L Δ Al. Ti. Tr. WH. Diw. A hyn sydd yn puro (yn y ganolryw) yw darlleniad llawysgrifau diweddar, 33 K M U V, &c., sef, y geudy, yr hwn sydd yn derbyn yr holl anmhuredd o'r corff, ac felly y mae yr elfenau sydd yn aros yn y corff yn feithrinol a da, ac felly yn bur. gan buro yr holl fwydydd. 20Ac efe a ddywedodd, yr hyn sydd yn dyfod allan o'r dyn, hyny sydd yn halogi y dyn. 21Canys oddifewn, allan o galon dynion, y daw allan feddyliau#7:21 Ymddadleuon, ymresymiadau. Y mae y meddyliau drwg hyn yn esgor ar chwech o weithredoedd, y rhai a safant yn y rhif lluosog, ac yn amlwg mewn chwech o dueddfrydau neu ogwyddiadau y meddwl, y rhai ydynt yn y rhif unigol. sydd ddrwg, megys puteindra#7:21 Neu, ymarferiadau o buteindra.#7:21 puteindra, lladradau, llofruddiaethau, godinebau, B L Tr. Al. Diw. godinebau, puteindra, llofruddiaethau, lladradau A., 22lladradau, llofruddiaethau, godinebau, trachwantau#7:22 Neu, ymarferiadau, neu ddymuniadau cybyddlyd. Llyth.: cael mwy na'r gyfran sydd ddyladwy. Cysylltir y gair nid yn unig â lladradau, &c., gan olygu cariad at feddianau bydol, ond hefyd â phechodau y cnawd (1 Cor 5:11; Eph 5:3–5; Col 3:5). Felly dynoda garu meddiant, neu gael mwynhad o'r hyn nid yw gyfreithlawn, pa beth bynag fydd ei natur., drygioni#7:22 Yn y lluosog, ymarferiadau drygionus., twyll, anlladrwydd, drwg‐lygad#7:22 Neu, llygad cenfigenus., athrod#7:22 Neu, difenwad, gogan, cabledd., balchder#7:22 rhodres, uchelfrydedd., ynfydrwydd#7:22 Neu, ffolineb.. 23Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod allan oddifewn, ac yn halogi y dyn.
Iachâd merch y wraig o Syrophenicia
[Mat 15:21–28]
24Ac efe a gyfododd oddiyno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a#7:24 a Sidon א A B La. Tr. Diw. Gad. D L Δ Al. Ti. [gwel Mat 15:21]. Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynai i neb wybod: ac ni allai efe fod yn guddiedig. 25Eithr pan glybu gwraig am dano, yr hon oedd ei merch fechan âg yspryd aflan ynddi, hi a ddaeth#7:25 aeth i mewn א L Δ Ti., ac a syrthiodd wrth ei draed ef. 26A Groeges#7:26 Neu, genedl‐wraig oedd y wraig, Syro‐pheniciad#7:26 Sef, Pheniciad yn byw yn Syria. o genedl; a hi a atolygodd iddo fwrw y cythraul#7:26 Gr. demon. allan o'i merch. 27Ac#7:27 Efe B L Δ Brnd.; yr Iesu, A. efe a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni#7:27 Llyth.; porthi., canys nid da cymmeryd bara y plant, a'i daflu i'r cwn#7:27 Neu, cenawon. bychain. 28Hithau a atebodd, ac a ddywed wrtho, Gwir, O Arglwydd, y mae hyd#7:28 Felly א B H Δ Tr. Ti. Diw. canys hefyd A L Al. y nod y cwn#7:28 Neu, cenawon. bychain dan y bwrdd yn bwyta o friwsion#7:28 Neu, dameidiau. y plant bychain. 29Ac efe a ddywedodd wrthi, O herwydd yr ymadrodd hwn, dos ymaith: y mae y cythraul wedi myned allan o'th ferch. 30Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd y#7:30 א B D L Δ La. Ti. Tr. Al. Diw. Fyned o'r cythraul allan, a'i merch wedi ei gosod ar y gwely A D. plentyn bychan wedi ei gosod ar y gwely, a'r cythraul wedi myned allan.
Iachâd yr hwn oedd fyddar ac atal llefaru arno
[Mat 15:29–31]
31Ac efe a aeth drachefn allan o gyffiniau Tyrus, ac#7:31 Tyrus, ac a ddaeth trwy Sidon i א B D L Δ Brnd. o Tyrus a Sidon A. a ddaeth trwy Sidon i Fôr Galilea, trwy ganol cyffiniau Decâpolis. 32Ac y maent yn dwyn ato un byddar#7:32 Kôphos, byddar, hefyd, mud., a diffygiol yn ei leferydd#7:32 Moggilalos, un yn llefaru gyda llais cau, iselgryg; yna, un yn llefaru gydag anhawsder. Gall y gair gynnwys atal‐dweyd, ond ni olyga hyny yn unig., ac y maent yn ymbil arno i osod ei law arno ef. 33Ac efe a'i cymmerodd ef ymaith oddiwrth y dyrfa o'r neilldu, ac a roddodd#7:33 Llyth.: a daflodd ei fysedd i'w glustiau. ei fysedd yn ei glustiau ef; ac efe a boerodd, ac a gyffyrddodd â'i dafod ef. 34A chan edrych tua'r Nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywed wrtho, Ephphatha#7:34 Yn yr Aramaeg., hyny yw, Ymagor. 35A'i glustiau#7:35 Llyth.: glywediadau. ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd, ac efe a lefarodd yn hyglyw. 36Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb; ond po fwyaf y gorchymynodd efe iddynt, mwyaf i gyd o lawer y cyhoeddasant hwy eu hunain y peth. 37A hwy a darawyd â syndod enfawr, gan ddywedyd, Y mae efe wedi gwneyd pob peth yn dda: y mae efe yn gwneuthur hyd y nod i'r byddariaid glywed, a mudaniaid lefaru.
دیاریکراوەکانی ئێستا:
Marc 7: CTE
بەرچاوکردن
هاوبەشی بکە
لەبەرگرتنەوە

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.