لۆگۆی یوڤێرژن
ئایکۆنی گەڕان

Marc 6

6
Crist yn ymweled a Nazareth, ac yn cael ei wrthod
[Mat 13:53–58; Luc 4:16–30]
1Ac efe a aeth allan oddiyno; ac y mae#6:1 א B C L Δ Brnd. aeth allan A. yn dyfod i'w wlad#6:1 Llyth.: tâd‐wlad. ei hun, a'i Ddysgyblion a'u canlynasant ef. 2Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddechreuodd ddysgu yn y Synagog, a llawer#6:2 א A C D. La. Tr. Diw. A'r llaweroedd B L. Ti. WH. [Al.] wrth wrando#6:2 Neu, pan glywsant. arno a darawyd a syndod, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha beth yw y ddoethineb a roddir i hwn? ac y mae y fath weithredoedd nerthol#6:2 Llyth.: alluoedd. yn cael eu gwneyd trwy ei ddwylaw ef. 3Onid hwn yw y saer#6:3 Tektôn, cynnyrchydd, gweithiwr ar goed, saer coed., mab Mair, a brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon, ac onid yw ei chwiorydd ef yma gyda ni? A hwy a rwystrwyd#6:3 Llyth.: a ddaliwyd mewn magl, a dramgwyddwyd, a achoswyd i dripio. ynddo ef. 4Yr Iesu a ddywed wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad#6:4 Llyth.: tâd‐wlad. ei hun, a chyda'i dylwyth ei hun, ac yn ei deulu#6:4 Neu, yn ei dy. ei hun. 5Ac ni allai efe yno wneuthur dim gweithred nerthol#6:5 Llyth.: alluoedd., ond gosod ei ddwylaw ar ychydig gleifion#6:5 Llyth.: dinerth, methedig., a'u hiachau hwynt. 6Ac efe a ryfeddodd o herwydd eu hanghrediniaeth; ac a aeth o amgylch y pentrefi o gwmpas, gan ddysgu.
Yr ail gylchdaith yn Galilea: cenadaeth y Deuddeg
[Mat 9:36—10:16; Luc 9:1–6; 10:1–12]
7Ac efe a eilw y Deuddeg ato, ac a ddechreuodd eu danfon bob yn ddau a dau, ac a roddodd iddynt awdurdod ar ysprydion aflan; 8ac a orchymynodd iddynt na chymmerent#6:8 Llyth.: na chymmerent i fyny. ddim i'r daith#6:8 Llyth.: i'r ffordd., ond llaw‐ffon yn unig; na bara#6:8 na bara nac ysgrepan א B C L Δ Ti. Tr. Al. Diw. nac ysgrepan na bara A (gwel. Luc 10:3)., nac ysgrepan, nac arian#6:8 Llyth.: prês neu gopr. yn eu llogell#6:8 Llyth.: gwregys., 9ond sandalau wedi eu clymu dan eu traed; ac na wisgent ddwy o îs‐wisgoedd#6:9 Chitôn, îs‐wisg neu y wisg nesaf at y croen, yn wrthgyferbyniol i himation, y wisg uchaf.. 10Ac efe a ddywedodd wrthynt, yn mha le bynag yr eloch i mewn i dy, yno aroswch hyd onid eloch ymaith oddiyno. 11A pha le#6:11 Pa le bynag א B L Δ Ti. Tr. Al. Diw. Pa rai bynag A D. bynag ni'ch derbynio, a hwy ni'ch gwrandawant, pan yr eloch allan oddiyno, ysgydwch ymaith y llwch a fyddo dan eich traed, er tystiolaeth iddynt#6:11 yn wir meddaf i chwi, y bydd yn fwy goddefadwy i Sodom neu Gommorrah yn nydd y farn nag i'r ddinas hono A (o Mat 10:15). Gad. א B C D L Δ Brnd.. 12A hwy a aethant allan, ac a bregethasant fel yr edifarhaent; 13a llawer o gythreuliaid#6:13 Gr. demoniaid, ellyllon. a fwriasant allan, ac a eneiniasant ag olew lawer o gleifion#6:13 rai dinerth, methedig., ac a'u hiachasant.
Cythrudd Herod ynghylch yr Iesu
[Mat 14:1, 2; Luc 9:7–9]
14Ar brenin Herod a glybu; canys cyhoedd#6:14 Llyth.: canys yr oedd ei enw ef wedi ei wneyd yn amlwg. ydoedd ei enw ef; ac efe#6:14 א A C L Δ Brnd. Hwy a ddywedasant B D. a ddywedodd, Ioan y Bedyddiwr sydd wedi cyfodi o feirw, ac o herwydd hyny y mae y nerthoedd#6:14 Gr. galluoedd. yn gweithio ynddo ef. 15Ac eraill a ddywedasant, Elias yw#Mal 4:5, ac eraill a ddywedasant, Proffwyd! Fel un o'r proffwydi! 16Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Yr hwn a dorais ei ben ef, Ioan, hwn a#6:16 yw efe A C. Gad. א B L Δ (o Mat.) gyfododd#6:16 o feirw C D [Tr.] Gad. א B L Δ Ti. Al. WH..
Merthyrdod Ioan
[Mat 14:6–12]
17Canys Herod ei hun a ddanfonodd ac a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd ef yng#6:17 א B C L, &c., Brnd. Yn y carchar Test. Der. ngharchar, o achos Herodias#6:17 Merch Aristobulus, mab Herod Fawr. Felly yr oedd Herod Antipas a Philip yn ddau ewythr iddi!, gwraig Philip ei frawd; canys efe a'i priododd hi. 18Canys dywedodd Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd#Lef 18:16; 20:21. 19A Herodias a ffyrnigodd#6:19 Enechô (gyda pherson) ffyrnigo yn erbyn; dal gwg yn erbyn; teimlo dygasedd; Llyth.: dal gafael ynddo (heb ei ollwng yn rhydd). yn ei erbyn, ac a chwenychodd ei ladd ef, ac nis gallodd. 20Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ddyn cyfiawn a sanctaidd, ac a'i dyogelodd#6:20 Suntéreô, cadw yn ddyogel, y gwîn (Mat 9:17; Luc 5:38), yn y meddwl (Luc 2:19); Herod a ddyogelodd Ioan rhag cynllwyn Herodias.. A phan glywodd efe ef, efe a gythryblwyd#6:20 êporei, gythryblwyd, ddygwyd i gyfyng‐gynghor, drallodwyd, א B L Ti. WH. Diw.; epoiei, a wnaeth (lawer) A C D (ac amryw hen gyf.) Al. La. [Tr.] yn ddirfawr, ac a'i gwrandawodd yn llawen. 21Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, Herod, ar adeg dathliad dydd ei enedigaeth#6:21 Genesia, gwyl, gwledd, neu ddathliad dydd genedigaeth., a wnaeth swper i'w bendefigion#6:21 Arglwyddi, pennaethiaid gwladol., a'i gad‐flaenoriaid#6:21 Chiliarchos. Llyth.: blaenor, neu gapten ar fil o filwyr., a phrif ddynion Galilea. 22A phan ddaeth merch#6:22 Felly A C La. Al. Ti. Tr. Diw.; ei ferch Herodias א B D L Δ WH. Herodias ei hun i mewn, a dawnsio, hi a foddhâodd Herod a'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth y bwrdd; a'r brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynit, a mi a'i rhoddaf i ti. 23Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynag a ofyni i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd haner fy nheyrnas. 24A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan y#6:24 Ioan y Bedyddiwr א B L. Ioan Fedyddiwr A C D. Bedyddiwr. 25Ac yn ebrwydd hi a ddaeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynodd, gan ddywedyd, Mi a fynaf i ti roddi i mi yn ddioed#6:25 Neu, ar unwaith, yn awr, allan o law., ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. 26A'r brenin a fu drist#6:26 Perilupos, trallodus, gofidus (Luc 18:23; Marc 14:34). iawn; eto, er mwyn y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, ni fynai ei diystyru#6:26 Atheteô, gwneyd i ffwrdd â'r hyn a osodwyd i lawr, gwneyd yn ddieffaith, tori addewid, rhwystro, yna, gwrthod, dibrisio, bychanu. hi. 27Ac yn ebrwydd y brenin a ddanfonodd lys‐filwr#6:27 Specoulatôr, gair Lladin, yn golygu milwr yn gweini ar swyddogion uchel, yn enwedig ar yr Amherawdwr; weithiau, gweithredai y speculator fel dihenyddwr., ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef: ac yntau a aeth, ac a dorodd ei ben ef yn y carchar, 28ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddodd ef i'r llances, a'r llances a'i rhoddodd ef i'w mam. 29A phan glybu ei Ddysgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymmerasant ei gorff ef, ac a'i dodasant mewn bedd.
Dychweliad y Deuddeg. Crist yn dysgu ac yn porthi y dyrfa
[Mat 14:13–21; Luc 9:10–17; Ioan 6:1–14]
30A'r Apostolion a ymgasglant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau a wnaethant, a'r rhai a ddysgasant. 31Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch chwi eich hunain o'r neilldu i le anghyfanedd, a gorphwyswch encyd#6:31 Neu, ychydig.; canys llawer oedd y rhai oedd yn dyfod ac yn myned, ac nid oedd iddynt gyfleustra#6:31 Neu, hamdden. i fwyta. 32A hwy a aethant ymaith yn y cwch i le anghyfanedd o'r neilldu. 33A hwy#6:33 hwy a'u gwelsant א A B D Brnd. Y tyrfaoedd (o Mat 14:13; Luc 9:11). a'u gwelsant hwy yn ymadael, a llawer a'u hadnabuant#6:33 a'u hadnabuant hwy א A L Ti.; a'u hadnabuant ef, Test. Der. Gadewir allan hwy ac ef yn B D Al. La. Tr. WH., ac a gyd‐redasant yno ar draed#6:33 Neu, dros y tir. o'r holl ddinasoedd, ac a'i rhagflaenasant ef#6:33 Ac a ddaethant ynghyd ato ef A. Ddaethant ynghyd yno D. Gad. א B Brnd.. 34Ac wedi iddo ddyfod allan, efe#6:34 Efe א B D, &c. a welodd dyrfa fawr, ac a lanwyd â thosturi tuag atynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail; ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. 35A phan yr oedd yr awr weithian wedi myned yn mhell#6:35 Llyth.: a phan yr oedd yr awr weithian yn llawer., ei Ddysgyblion a ddaethant ato, ac a ddywedasant, Y lle sydd anghyfanedd, ac weithian y mae'r awr wedi myned yn mhell: 36gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i'r lleoedd gwledig o amgylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain beth#6:36 fara; canys nid oes ganddynt ddim i'w fwyta, A rhai Cyf. Gad. B D L Tr. Al. Ti. i fwyta. 37Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth dau can denarion#6:37 Bathodyn arian o werth tuag wyth ceiniog a dimai; 200 denarion felly yn werth 7p. 1s. 8c. o fara, a'i roddi iddynt i'w fwyta? 38Ac efe a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? Ewch, edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, dywedant, Pump, a dau bysgodyn. 39Ac efe a orchymynodd iddynt beri i bawb eistedd#6:39 Llyth.: ledorwedd, fel y gwnelai Dwyreinwyr wrth fwyta. yn ddosparthiadau#6:39 Sumposion, cymdeithion yfed, neu rai a gyfarfuent i fwynhau, neu ddifyru eu hunain; yna rhengoedd neu heibiau o westeion. ar y glaswellt. 40A hwy a eisteddasant#6:40 Llyth.: a syrthiasant yn ol. yn rhesi#6:40 Prasia, ardd‐wely, yna, rhesi neu ddosparthiadau. Ffurfiai y bobl heibiau gwahanol ar y ddaear: y gair o prason, ceninen, un ffordd yn gant, a ffordd arall yn ddeg‐a‐deugain. 41Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny tua'r Nef, efe a fendithiodd#6:41 Neu, a ddiolchodd, ac a dorodd y torthau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion, i'w gosod ger eu bron hwynt: a'r ddau bysgodyn a ranodd efe rhyngddynt oll. 42A hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd#6:42 Llyth.; a borthwyd.: 43a hwy a gymmerasant i fyny o'r briw‐fwyd ddeuddeg basgedaid yn llawn, ac o'r pysgod. 44A'r rhai a fwytasant y torthau oeddynt#6:44 ynghylch א. Gad. A B D Brnd. (gwel Mat 14:21). bum mil o wyr.
Y Dysgyblion mewn trafferth ar y mor, Crist yn rhodio atynt
[Mat 14:22–26; Ioan 6:15–21]
45Ac yn ebrwydd efe a gymhellodd ei Ddysgyblion i fyned i'r cwch, a myned o'i flaen yn groes i Bethsaida, tra y mae efe yn gollwng ymaith y dyrfa. 46Ac wedi iddo ffarwelio#6:46 Neu, ymadael, canu yn iach. â hwynt, efe a aeth ymaith i'r mynydd — i weddio. 47A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd y cwch yn nghanol y môr, ac yntau wrtho ei hun ar y tir. 48Ac wrth eu gweled hwynt yn drallodus#6:48 Llyth.: yn dirboeni. yn rhwyfo#6:48 Llyth,: gwthio yn mlaen (y llong â'r rhwyfau)., canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, ynghylch y bedwaredd#6:48 o dri i chwech o'r gloch yn y boreu. wylfa o'r nos y mae efe yn dyfod atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt. 49Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant, Drychiolaeth#6:49 Felly א B L Δ. Mai drychiolaeth ydoedd A D Al. Tr. ydyw, a hwy a waeddasant: canys hwy oll a'i gwelsant ef, ac a drallodwyd. 50Ac yn ebrwydd efe a ymddiddanodd â hwynt, ac a ddywed wrthynt, Ymgalonogwch: Myfi yw; nac ofnwch. 51Ac efe a aeth i fyny atynt i'r cwch; a pheidiodd#6:51 Fel wedi blino a methu. y gwynt. A hwy a synasant yn ddirfawr#6:51 ek perissou, yn ddifesur, yn anarferol A Al. [Tr.] Gad. א B L Δ WH. Diw. ynddynt eu hunain#6:51 ac a ryfeddasant A D. Gad. א B L Δ Brnd.; 52oblegid ni ddeallasant drwy foddion#6:52 Epi, ar dir, ar sail, trwy gymhorth. Ni chymmerodd y Dysgyblion eu safle ar wyrth y torthau i weled pethau yn eu lliw priodol. y torthau; ond yr oedd eu calon hwynt wedi caledu#6:52 Neu, pylu.. 53Ac wedi iddynt groesi trosodd at y tir, hwy#6:53 Felly א B L A Ti. WH. Diw. Ac wedi iddynt groesi trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret A D Al. La. Tr. a ddaethant i Gennesaret, ac a angorasant wrth y làn. 54Ac wedi eu dyfod hwy allan o'r cwch, yn ebrwydd hwy a'i hadnabuant ef, 55ac a redasant o amgylch yr holl wlad hono, ac ddechreuasant ddwyn oddiamgylch ar eu gwelyau#6:55 Neu, glythau. y rhai cleifion, pa le bynag y clywent ei fod ef. 56Ac i ba le bynag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu i leoedd gwledig, hwy a osodent y cleifion yn y marchnad‐leoedd, ac a atolygent iddo gael o honynt gyffwrdd ond âg ymyl#6:56 Neu, siobyn, twff, pleth (Deut 22:12); S. tassel, fringe. ei fantell#6:56 Y wisg uchaf. ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef#6:56 Neu, hi (y fantell)., a iachawyd.

دیاریکراوەکانی ئێستا:

Marc 6: CTE

بەرچاوکردن

هاوبەشی بکە

لەبەرگرتنەوە

None

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە