YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 33

33
Cymorth mewn Argyfwng
1Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio,
ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo;
pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir,
pan beidi â thwyllo, fe'th dwyllir di.
2O ARGLWYDD, trugarha wrthym, yr ydym yn disgwyl amdanat;
bydd yn nerth i ni#33:2 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. TM, iddynt. bob bore,
ac yn iachawdwriaeth i ni ar awr gyfyng.
3Gan sŵn terfysg fe ffy pobloedd,
gan dy daranu#33:3 Felly Sgrôl A. TM, dy ddyrchafiad. di fe wasgerir cenhedloedd.
4Cesglir eich ysbail fel petai lindys yn ei gasglu;
fel haid o locustiaid fe heidir o'i gylch.
5Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder;
fe leinw Seion â barn a chyfiawnder,
6ac ef fydd sicrwydd dy amserau.
Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth,
ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.
7Clyw! Y mae'r glewion yn galw o'r tu allan,
a chenhadau heddwch yn wylo'n chwerw.
8Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith,
heb neb yn troedio'r ffordd;
diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau#33:8 Felly Sgrôl A. TM, dinasoedd.,
nid yw neb yn cyfrif dim.
9Y mae'r wlad mewn galar a gofid,
Lebanon wedi drysu a gwywo;
aeth Saron yn anialwch,
a Basan a Charmel heb ddail.
10“Ond yn awr mi godaf,” medd yr ARGLWYDD,
“yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel.
11Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl;
tân yn eich ysu fydd eich anadl;
12bydd y bobl fel llwch calch,
fel drain wedi eu torri a'u llosgi yn y tân.”
13Chwi rai pell, gwrandewch beth a wneuthum,
ac ystyriwch fy nerth, chwi rai agos.
14Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni,
a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn:
“Pwy ohonom a all fyw gyda thân ysol,
a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?”
15Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir,
sy'n gwrthod elw trawster,
sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr,
sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio,
sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.
16Y mae ef yn trigo yn yr uchelder,
a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau,
a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr.
17Fe wêl dy lygaid frenin yn ei degwch,
a gwelant dir yn ymestyn ymhell;
18byddi'n dwyn i gof yr ofnau:
“Ble mae'r un fu'n cofnodi?
Ble mae'r un fu'n pwyso?
Ble mae'r un fu'n cyfri'r tyrau?”
19Ni chei weld pobl farbaraidd,
pobl a'u hiaith yn rhy ddieithr i'w dirnad,
a'u tafod yn rhy floesg i'w ddeall.
20Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau;
bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem,
bro diddanwch, pabell na symudir;
ni thynnir un o'i phegiau byth,
ac ni thorrir un o'i rhaffau.
21Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd,
a mangre afonydd a ffrydiau llydain;
ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno,
na llong fawr yn hwylio heibio.
22Yr ARGLWYDD yw ein barnwr,
yr ARGLWYDD yw ein deddfwr;
yr ARGLWYDD yw ein brenin,
ac ef fydd yn ein gwaredu.
23Y mae dy raffau'n llac,
heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le,
ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu.
Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr,
a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.
24Ni ddywed neb o'r preswylwyr, “Rwy'n glaf”,
a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.

Currently Selected:

Eseia 33: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy