YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 32

32
Teyrnas Cyfiawnder
1Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder,
a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn,
2pob un yn gysgod rhag y gwynt
ac yn lloches rhag y dymestl,
fel afonydd dyfroedd mewn sychdir,
fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig.
3Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld,
ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;
4bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall,
a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.
5Ni elwir mwyach y ffŵl yn fonheddig,
ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais.
6Oherwydd y mae'r ffŵl yn traethu ffolineb,
a'i galon yn dyfeisio drygioni,
i weithio annuwioldeb,
i draethu celwydd am yr ARGLWYDD;
y mae'n atal bwyd rhag y newynog,
ac yn gwrthod diod i'r sychedig.
7Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus;
y mae'n dyfeisio camwri
i ddifetha'r tlawd trwy dwyll,
a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.
8Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd,
ac yn ei anrhydedd y saif.
9Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch;
gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.
10Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder,
oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.
11Chwi sy'n ddiofal, pryderwch,
ymysgydwch o'ch difrawder.
Tynnwch eich dillad ac ymnoethi;
rhowch sachliain am eich lwynau.
12Curwch eich bronnau
am y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,
13am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri,
ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.
14Canys cefnwyd ar y palas,
a gwacawyd y ddinas boblog.
Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth,
yn hyfrydwch i'r asynnod gwyllt
ac yn borfa i'r preiddiau.
15Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry,
a'r anialwch yn mynd yn ddoldir,
a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,
16yna caiff barn drigo yn yr anialwch
a chyfiawnder gartrefu yn y doldir;
17bydd cyfiawnder yn creu heddwch,
a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth.
18Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon,
mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel,
19a'r goedwig wedi ei thorri i lawr#32:19 Felly llawysgrif. Cymh. Groeg a Syrieg. TM, bwrw cenllysg.,
a'r ddinas yn gydwastad â'r pridd.
20Gwyn eich byd chwi sy'n hau wrth lan pob afon,
ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd.

Currently Selected:

Eseia 32: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy